Shreds

Ma rhai o chi'n ymwybodol o fy obsesiwn gyda true crime. Ma fe di bod na ers erioed fi'n credu, ond mae podcasts am true crime wedi golygu bod fi'n gallu gwrando to my heart's content. On i am rhoi rhestr i chi, ond bydd rhaid i chi aros am y rhestr. Yng ngoleuni'r hyn sydd wedi bod yn digwydd ar draws y byd o ganlyniad i lofruddiaeth George Floyd, fi'n credu mai ond un podcast alla i argymell i chi, a Shreds yw hwnnw.

Os odych chi'n credu nad oes problem hilaeth gyda ni ym Mhrydain, meddyliwch eto. Os chi'n meddwl nad oes problem gyda ni yng Ngymru, meddyliwch eto. Falle bod pethau yn ymddangos yn well weithiau, ond dyn nhw ddim. Mae angen i bobl wyn (fel fi), fod yn well. Mae angen i ni addysgu ein hunain a'n gilydd. Mae angen i ni sefyll lan a chamu mlaen pan fyddwn ni'n clywed a gweld hiliaeth yn digwydd. Dyw hi DDIM yn ddigon da i jest peidio â bod yn hiliol, mae angen i ni fod yn weithredol wrth-hiliaeth.

Wy ddim wedi gwneud digon o ymchwil i rannu adnoddau gyda chi. Ond fe allech chi wneud LOT gwaeth na mynd i gyfrif twitter Efa Lois i gael esbonioad o beth yw braint pobl wyn. Mae hi hefyd wedi creu casgliad o adnoddau i ni addysgu'n hunain. Ewch ati i wneud hynny. Mae ei lluniau hi hefyd yn lysh, bonus!

Felly at y podcast. Shreds: Murder in the Docks. Mae'n adrodd hanes llofruddiaeth Lynette White yn Tiger Bay nôl yn 1989. Cafodd pump dyn du eu harestio a'u cyhuddo o'i llofruddiaeth ar gam. fe wnaeth tri ohonyn nhw dreulio nifer o flynyddoedd yn y carchar ar gam hefyd. Ewch i wrando ar y podcast. Nid yn unig ma fe wedi ei gynhyrchu a'i greu yn arbennig, ond mae hefyd yn cynnwys peth o hanes Tiger Bay. 


Fe ddoi nol gyda mwy o argymhellion cyn hir. Odd hi'n bwysig i fi gynnwys hwn ar ben ei hunan.

 Cadwch yn sâff.

Comments

Popular posts from this blog

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

lefel 4 = lockdown

Dolig dw dw dw