Mwy o argymhellion podcast

Ar ôl gweud bod fi am flogio mw, sai di gwneud ers mis nawr!

Erbyn hyn mae hi'n dros ddeg wythnos ers i ni fod yn y lockdown ma. Erbyn hyn ni'n cael cwrdda un cartref arall ar y tro tu fas. Sy'n rhywbeth, ond mae hi'n amlwg yn dal i fod yn anodd. Ma dal rhaid i ni aros 2 fetr wrht ein gilydd, felly er ein bod ni'n cael gweld ein teulu a'n ffrindie, does dim modd rhoi cwtsh na dim byd, sy'n anodd.

Ta beth, fe wnes i addo argymell podcasts do?! Wel dyma ni te. Fi am argymell tri, a ma'r tri yn eithaf gwahanol.
  1. The Allusionist
    Ma hwn yn bodcast am iaith, ac mae e werth mynd yn ôl i'r dechre i wrando arnyn nhe i gyd. Dy'n nhw ddim yn 'time sensitive' o reidrwydd (hynny yw, allwch chi wrando arnyn nhw mas o drefn, a dy'n nhw ddim rili yn sôn am beth sy'n mynd mlân yn y byd). Mae gyda hi bennod am y Gymraeg ym Mhatagonia, sy'n rili dda ac yn ddiddorol. Ma fe'n un i bigo mewn a mas ohono fe. Er mae'r cwpwl o benodau mwyaf diweddar (17 Mawrth i 13 Ebrill) bach yn wahanol, ac felly absen i ddim yn dechrau gyda'r rheiny!
  2. The Unhappy Hour
    Jest bach yn sili gyda Matt Bellassai (oedd arfer gweithio i BuzzFeed). Fi'n dueddol owrando nes y cyfweliad (fi fel arfer ddim yn gwybod pwy yw'r person sy'n cael cyfweliad). Mae na newyddion ridicilys a pethe bach itha ffyni. Rhywbeth ysgafn. OND hyd yn oed os nad y'ch chi'n joio'r podacast yn gyffredinol - gwrandwch ar y bennod ddiweddaraf Black Lives Matter, sy'n ddeifiol iawn ac yn siarad lot o sens am beth sydd wedi digwyddyn America dros y dyddiau diwethaf (aelod o'r heddlu yn lladd dyn du - George Floyd)
  3. Bananas
    Podcast am newyddion sili o bob cwr o'r byd. Dim byd mwy na ny. Amseru perffeth ar gyfer nawr (odd e yn y pipeline ers cyn y lockdown). Ma fe'n ddoniol ac yn bach o escapism. Sdim lot o bennodau  wedi bod - felly ewch i wrando!
A dyna ni am nawr! Er bod fi ddim rili *angen* mwy o bodcasts - os oes rhai gyda chi i'w hargymell i fi - dewch â nhw.

Tan toc - addo bydd e ddim mor hir tro ma! Cadwch yn saff

Comments

Popular posts from this blog

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

lefel 4 = lockdown

Dolig dw dw dw