5 diwrnod i fynd!

Wel blantos, wy heb flogio ers wythnos dwetha, a wy'n ymddiheurio! Rhaid gweud ein bod ni di bod itha bishi dros yr wythnos ish dwetha ma, sy'n beth da! Ma llunie ar picasa o barti Nadolig truenus y Cardigan Club (12 odd na), odd e'n itha diflas, ond o leiaf odd y bwyd yn dda, a ches i gyfle i wneud chocolate log a thishsen ffrwythe. Ath y ddou beth lawr yn wych! Sy'n gwd a chysidro bo fi ddim rili yn coginio tishene'n aml, os o gwbl!!

Ta beth, byddai gytre o fewn 5 dwrnod...gobitho!! Wy'n hedfan o Cincinnati dydd Mawrth, ond wy'n mynd i Cincinnati dydd Llun rhag ofn....Ma nhw'n gweud i bod hi'n mynd i fwrw eira dros y penwthnos mewn i ddydd Llun, so jest as well bo fi'n gadel digon o amser rili!!

Byddai'n twittro'r daith gytre mwy na thebyg. Wy'n hedfan o Cincinnati i JFK i Schipol (Amsterdam) i Gaerdydd.whiw! tan toc...

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!