Nadoligeiddio

Wel wy yn y mŵd am y Nadolig nawr! Penwythnos hyn, fe es i i dŷ un o staff y brifysgol gyda Jeanne fore Sadwrn am fimosas a nibls a chinio. Bu joio yn wir. feri sifilised!! Odd hi wedi bwrw eira tam bach dros nos a odd hi'n dal i fwrw ar y ffordd draw na, ond erbyn dychwelyd odd hi di sdopo bwrw. Wedyn yn y nos ath Jeanne a fi i weld cyngerdd Nadolig Ohio Valley Symphony. Anrheg Nadolig i fi wrthi hi. On nhw'n WYCH! Nes i rili rili joio. On i wedi rhoi lifft i Jeanne, ac fe wnath i ngwahodd i i gal bwyd da hi a Lou ar ôl y cyngerdd, odd yn sypreis bach neis ac annisgwyl!!

So dwrnod bach tawel odd dydd Sul yn neud dim lot o ddim byd. Heddi - eira, cyfweliad radio am fynd mas i'r ysgolion, eira, quilt barn project - unveiling quilt barn ddim yn bell o fan hyn, odd yn itha neis. Mynd i weld y goeden nadolig yn cal i goleuo heno ar y campws - wele . So digon mlan da fi heddi!!

Hefyd - cewch weld llunie newydd ar Picasa - o'r eira a ty y fenyw on i ynddo fe fore Sadwrn.

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!