Ypdêt a Moch

Jest postiad i weud bod hi wedi dechre mynd yn rili rili or ma wthnos ma a bod y tywydd mawr yn symud mawr, gan gynnwys eira a gwyntoedd cryfion!

So wy wedi cal brechiad yn ebryn ffliw'r moch, am ddim ma yn y brifysgol. On nhw'n cynnig e a dodd dim rili rheswm i bido cal e - dim adwaith i'r pigiad sy'n gwd. On nhw'n cynnig e i bawb 19-24 a phobl 25-64 gyda salwch difrifol, so gan bo fi (JEST) yn ffito mewn i'r categori cynta, all was good.

Llai na phythefnos nes bo fi gytre - rhaid gweud bo fi'n dishgwl mlan yn fowr iawn!! Er wy'n gwbod na fydd hi'n ddolig gwyn fel ma hi'n debygol o fod mas fan hyn!!1

Comments

Unknown said…
O ti'n wrong! Roedd hi'n Dolig gwyn! What's the chances!


Falch i glwyed ti nol yn saff. Dal yn oer mas fyna? Dechre twymo fan hyn o'r diwedd a'r ia yn dechrau toddi.

Spk swn! xxx

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

mis Mawrth yn barod!

I Miriam a Daisy