Diwrnod 2 - all the feels

Wel odd heddi'n bach o bopeth. Y teimlade na o fod ddim yn gallu helpu ac o ddim yn gwybod beth sy'n mynd mlaen. Ma bron pawb wy'n siarad gyda nhw'n teimlo fel hyn, ac mae e'n aml yn arwain at ddeigryn neu ddau. Ma hwna'n normal. Ma hefyd peidio llefen yn normal. Ma popeth yn normal ar hyn o bryd, achob bod popeth mor ben-i-waered.

Ta beth, sai di cyffro o'r tŷ heddi. Felly o nawr mlan wy am eud yn siŵr mod i'n cael wâc bob dydd, hyd yn oed os jest rownd y bloc, ond yn ddelfrydol mwy. Dyw aros yn y tŷ ddim yn dda ar gymint o lefelau.

Uchwafbwynt y dydd heddi'n sicr oedd cael cinio da'r go-girls (aka Merched y Waw) dros Skype. Chawson ni ddim sgwrs, odd gormod o ni na, ond odd e mor hyfryd gweld y ffrindie a'u plant. Nethon ni dreulio hanner yr amser yn chwerthin achos bod ni methu clywed dwy ohonyn nhw. Pethe bach.

Reit ma'r starter wedi'i fwydo, a ma'n ail goctêl yn aros amdanai. Tan fory, byddwch yn neis i'ch gilydd.

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!