Diwrnod 4 a 5 - y penwthnos

Wel i fi, yn bersonol, odd y pewnthnos cyntaf yn llawer llawer haws na'r dyddie cyn ny. Ma Mam a Dad yn iach, a gan mod i heb fod mewn cyswllt gyda bron neb, benderfynnodd y tri o ni bod e'n saff i fi fynd atyn nhw am chydig ddyddie. Cewch chi feirniadu os chi'n moyn, ond dyna oedd ore i ni. A fi'n gwbod bod fi'n lwcus iawn iawn i allu gwneud hynny.

Dreulies i ddydd Sadwrn yn upcyclo cist oedd yn y tŷ pan symudodd Mam a Dad mewn. Llunie i ddilyn ar hwna pan fyddai wedi gorffen yr holl beth. Ond i roi tamaid i aros pryd, wy'n defnyddio paent sialc arbennig, lle chi'n rhoi dwy got o liwiau gwahanol ac yna'n sandio i gael effaith distressed, ond ynda gwahanol iwie yn dod drwyddo. A wedyn cwyr arno. Fel wedes i, llunie i ddilyn.

Dydd Sul fe fues i'n coginio. Fi'n gwybod bod coginio yn rhoi pleser i lot ohonom ni, a fi'n gwybod ei fod e'n tynnu'n sylw ni ac yn rhoi rhywbeth i ganolbwyntio arno yn y cyfnod anodd ma. On i wedi cael yn fy mhen mod i am wneud pwdin stici toffi, ar ôl dod o hyd i fagied enfawr o ddatys, a medde mam bod gyda hi rysait, gwych, awe.

Ma fy annwyl chwaer a'i sboner yn hunanynysu gan ei fod e wedi dechrau dangos symptomau (mild), felly benderfynnes i ddyblu lan, er mwyn mynd a peth iddyn nhw. BIG mistêc. Dyma atgoffa pawb i ddarllen y rysait cyn cychwyn arni!!! Odd y rysait yn hen ddigon mawr cyn dechre. Gymrodd hi hanner awr i'r peiriant bach hufennu'r menyn a'r siwgr da'i gilydd. A wedyn daeth y dasg o ychwanegu'r ddau bwys (!!!!!) o can codi i'r gymysgedd. Mam bach. Ond son am chwerthin!

dau bwys o flawd...

A wedyn, dyma Dad yn gweud - "ti yn gwybod mai honna yw'r rysait gwreiddiol am stici toffi pwdin?!" Ma'r blog ma'n rhannu'r un reysait a ddefnyddies i. O wneud bach o ymchwil, sai'n siŵr pa mor wir yw'r honiad, ond ma'r rysait yn mynd yn ol i'r chwedegau, a ddaeth i Dad drwy law perchennog y gwesty (oedd yn wraig i fós Dad ar y pryd).
Ma digon o sdici toffi pwdin nawr yn rhwegell yn rhieni i gadw nhw i fynd am flwyddyn. Ac odd, odd e'n fendigedig o flasus.

Y pwdin enfawr


pwdin toffi sdici a hufen iâ
Ma'n bwysig cadw i chwerthin bobl. Cofiwch gadw i goginio a phobi a chodi'ch calonne os gallwch chi! A rhannwch eich campweithie gydag eraill, chi byth yn gwybod beth fydd yn codi gwên ac yn helpu rhywun arall.

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!