Diwrnod 3 - drama cwîn

Os fi'n onest (a fi'n lico meddwl bo fi'n ot o bethe, ond sai'n credu ffeindi di unrhywun wedith bod fi ddim yn onest), odd heddi'n fflipin anodd.

Sai di teimlo anobaith fel heddi erioed o'r blân. Nai fod yn onest to, sai di llefen cyment â heddi mewn dwrnod eriod, hyd yn oed mewn angladd. Odd hi'nanodd, ac i fi doedd dim ffordd rownd hyn. Ddechreues i'n gynnar yn y gwaith, a ath e'n wath o fana. Dreulies i'r dwrnod yn cyfieithu am y coronafirws, and it got to me. Odd e'n anodd, a na'i gyd odd raid fi neud odd darllen amdano. Allwch chi ddychygu beth fase fe fel i actiwali delio da fe?! Felly fi di neud penderfyniad. Fi a roi hysbysebion ar y blog ma, a bydd unrhyw arian wy'n codi o hwna yn mynd i gefnogi staff yr NHS yn lleol rywffordd. Nai ffigro'r manylion mas to. Cwbl wy'n gwbod yw, os ni'n llefen, ma nhw'n llefen, a ma nhw'n gweld gyment mwy o crap na ni.

Ta beth, ma'r surdoes a fi wedi mudo  milltir i'r gogledd i dŷ mam a dad yn reglwysnewydd am gwpwl o ddyddie. Odd yr unigrwydd yn mynd i'n lladd i. Ma dal angen enw ar y surdoes, bring it.

Os chi'n dilyn fi ar instagram (sioden), fi wedi bod yn rhannu coctel bach gwahanol bob dydd. Wy'n mynd i gadw hyn i fynd cyn hired ag y galla i. Ma edrych mlaen at ddrinc diwedd y dydd yn heplu canolbwyntio'r meddwl rhnwg popeth, ac yn tynn'r meddwl oddi ar yr erchyllterau i gyd. Ewch i gael pip, smo nhw'n groundbreaking, ond ma nhw'n flasus!

Fi dal yn prosesu shwd i gymryd heddi a neud yn siŵr bod fi'n gwella ac yn gallu delio gyda'r negatifrwydd anhygoel. Felly byddwch yn glen, byddwch yn neis, a byddwch yn lan.

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!