Not quite quarantine

Wel, so dyma ni. Ma hi'n amser bach od, sneb cweit yn siŵr beth sydd wedi digwydd, beth sydd yn digwydd na beth sy'n mynd i ddigwydd.

O fory (18 Mawrth) fe fydda i'n gweithio o adre am y cyfnod sydd i ddod. A wy'n gwybod bod nifer fawr iawn iawn eraill yn yr un sefyllfa. Fi'n mynd i gadw'r blog ma fel cofnod personol o beth sy'n digwydd. Fydd e ddim yn groundbreaking nac yn arloesol. Ond jest cofnod o beth sy'n mynd mlaen o ddydd i ddydd.

Fi wedi ei chael hi'n anodd y cwpwl o ddyddied diwethaf ma, oedd neithiwr yn serious low point. Ond diolch i Dduw ma da fi ffrindie da a chall a hyfryd. Mae na lot o wybodaeth mas na, lot ohono'n anwir neu'n anghywir. A lot o gynnwys cywir a defnyddiol. A kot mwy hefyd eto fyth sy'n mynd i fod yn ddefnyddiol pan fyddwn ni i gyd ar lockdown!

Am nawr y cwbwl defnyddiol sda fi i weud, yw cariwch mlaen i siarad da'ch ffrindie a'ch teuluoedd amdano a golchwch eich dwylo. Cariwch mlaen i wrando ar Eidalwyr yn canu yn y stryd. Peidiwch credu popeth ar facebook, a chredwch yr arbenigwyr. Ac yn bennaf oll, peidiwch â bod ofn bod ofn. Ma fe'n rhesymol, ond peidiwch â gadael iddo gymryd dros eich bywyd. Fel wedodd mam, ma sdres yn niwiedio dy imiwnedd di, dyw e ddim yn dda i ti.

Tan fory - byddwch lân.

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

mis Mawrth yn barod!

I Miriam a Daisy