Dyddiadur dŵr diwrnod 1
Wedi dod i ben y diwrnod cyntaf o yfed dim ond dŵr. Dim y dwrnod hawdda i ddechre gan bod ni di mynd mas am fwyd i ddathlu penblwydd fy ffrind da, Llinos i Steak of the Art. Ond er bod fy nghyfeillion wedi ordro gwin (a bydden i'n dishgwl dim llai!) fe wnes i ymdopi'n iawn!
Wy wedi penderfynnu cadw trac o faint bydden i wedi gwario ar noson a wedyn cyfrannu'r arian yna at yr achos. Wy'n tybio y bydden i wedi rhannu'r gwin gafoss ei archebu ac felly wy am dybio y bydden i wedi gwario tua £6 ar gyfran o'r gwin heno.
Dyma brawf mai ond dŵr ges i heno (a bod y bwyd yn hyfryd!)
Running total £6
Comments