Dyddiadur Dŵr

Fory fe fydda i'n dechre ar her yr RNLI i yfed dŵr yn unig am 10 diwrnod. I'r rheiny ohonoch chi sy'n yn nabod i, byddwch chi'n gwbod bod hyn am fod yn her i fi gan mod i'n mwynhau gwydred o win nawr ac yn y man! Felly fe fydd hon yn wir her i fi, hyd yn oed os ydych chi'n credu na fydde hi'n her i chi!! 

Felly os ydych chi am fy noddi i, bydden i'n gwerthfawrogi'n fawr iawn! Dyma'r ddolen i gyfrannu - http://www.justgiving.com/sionedwyn. Croeso i chi wneud cyn neu ar ôl i'r cyfnod ddod i ben, os odych chi ishe prawf y bydda i'n gwneud. A diolch i'r rheiny ohonoch chi sydd eisoes wedi cyfrannu!

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!