Dyddiadur dŵr diwrnodau 5 a 6

Dau ddiwrnod eithaf gwahanol. Dydd Sadwrn, diwrnod o sdeddfod, beth arall?! Ac yn goron ar y cwbl gig Cowbois a Bwncath ym Mhentyrch. Fel bob tro odd y Cowbois yn wych, ac er nad on i di clywed am Bwncath on nhw'n ffab fyd, ac odd llais y prif leisydd yn gyfarwydd.  Eto, gyrrais, ac rodd arogl y cwrw yn itha deniadol, ond odd hi ddim yn rhy anodd ymwrthod. Wedi gweud hynny, pe bai fi ddim yn gyrru basen i wedi cael rownd o ddiodydd (£12) felly dyna fyddai'n ychwanegu at y cyfanswm. 

Dydd Sul wedi trefnu mynd i Bully's am ginio hwyr. Er y bydden i wedi yfed, basen i ddim wedi mynd heddi pe bai fi ddim yn gwneud yr her ma. Ac am y rheswm honno wy ddim am ychwanegu dim at y cyfanswm heddi...gobitho bo chi'n deall! I dreulio amser bore ma pobais i ddwy dorth - un o fara gwyn
ac un arall o fara soda. 
Llwyddiant ysgubol oedd y ddwy rhaid dweud. A wnaeth y bara gwyn ddim cymryd cymaint o amser ag on i'n meddwl y base fe!

Running total £27

Comments

Popular posts from this blog

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

lefel 4 = lockdown

Dolig dw dw dw