Dyddiadur dŵr diwrnod 2

Pryd arall o fwyd mas (da'r côr tro ma) a llwyddiant eto. Sdicio at y dŵr. Ma hi wir am fod yn her i fi, allai weld na (on i'n gwbod o'r dechre!!) ond fi'n benderfynnol o lwyddo. Ma'n debygol y basen i wedi gwario tua £6 arall heno ar fŵs.

Daeth y pecyn gan yr RNLI drwyddo heddi. Ma na un cyfarwyddyd mewn na sy'n gweud os odw i ishe 24awr 'off' bo fi'n gallu cyfrannu £24. Wel wy am weud nawr NAD ODW I AM WNEUD NA! I fi, rhan o'r her yw bod e am gyfnod dilynol o 10 dwrnod. Felly dyma fi'n cyfri lawr nes 5pm ar 5 Mehefin!

Running total £12

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!