Dyddiadur dŵr diwrnod 3
Newydd ddod nol o gig Phalcons, HMSMorris a Georgia Ruth yn Clwb Ifor Bach. Ma'r gig yn haeddu postiad ei hunan achos odd pawb yn wychwychwych. Lot o sdwff newydd cŵl iawn.
Ond nes i lwyddo ar jest dŵr. Bydde peint wedi bod jest y peth. Ond rodd hi'n dro i fi yrru i'r gig felly mond un drinc bydden i wedi cael felly wy am ychwanegu £3 i'r running total.
Odd heddi'n bach o sdrygl gan bod gwaith yn hollol manic ar hyn o bryd. Sôn am ny, ma hi'n amser mynd i'r gwely, gwaith yn gynnar fory!
Running total £15
Comments