Penwythnos Hir - Bob Evans Farm Festival
Heb flogio ers bron i wythnos. Hanner y rheswm gan bod dim byd newydd wedi digwydd i fod yn onest! Odd Penwythnos hir gyda ni penwythnos hyn gan bod y bob Evans Farm Festival. A dweud y gwir ma hi'n Columbus Day heddiw, sy'n golygu i lot o sefydliadau bod dwrnod off gyda nhw, a beth ma'r Brifysgol wedi gwneud yw symud y dwrnod off i'r dydd Gwener i gyd-fynd da'r wyl. A ma hi hefyd yn Thanksgiving yng Nghanada heddi fyd.
Co collage o lunie yn dangos golygfa o'r ŵyl i chi gael rhyw fath o flas ohono fe. Ma mwy o lunie ar Picasa hefyd. Odd yr ŵyl mlaen o'r nawfed tan yr unfed ar ddeg o Hydref. Nath hi bistilllo'r glaw dydd Gwener, odd hi ddim yn neis iawn dydd Sadwrn a wedyn dydd Sul odd hi'n hyfryd. so es i dydd SUl, a gan mod i wedi mynd ar ôl hanner dydd dodd dim angen talu - bargen!! Beth odd na odd lot o stondine gyda LOT o bethe twee iawn da nhw. Rhai stondine gyda pethe rili neis - ond wrth gwrs on i ffili prynu'r pethe odd yn yn neis chos bydden nhw byth wedi cyrradd gytre yn anffodus :( .Ond nes i joio cerdded ambwyti a gweld y llamas a'r arddangosfa cŵn defed (weles i ddim lot gan obd gormod o bobl o'n flan i). Siwr o fod yn fyw o hwyl mynd fel grwp a joio'r craic ayb, ond odd e'n brofiad diddorol. Brynes i Maple Syrup a Cider (ma'i seidr nhw fan hyn fel freshly squeezed apple juice a dos dim alcohol ynddo fe o gwbl, ond ma fe'n hyfryd ac yn lleol sy'n gwd). Gobitho bydd y maple syrup yn i gwneud hi gytre da fi!!!
Ma ymarfer cyntaf fi yn y côr heno, so nai adel i chi wbod siwd ma hwna'n mynd a beth yn gwmws y'n ni'n canu!!! Rhywbeth gan Schubert, ond sai'n cofio beth! Fi off i Cleveland penwythnos ma a wedyn nol i Columbus pnawn dydd Sul ar gyfer y Gymanfa Ganu fan na. Dishwgl mlan at y penwthnos yn barod!!!
Comments