ypdêt

Helo na! Wy heb flogio ers wythnos bellach sai'n credu - sori am ny! Dyw e ddim achos mod i wedi bod yn hynod fishi yn ddiweddar, mond bod dim byd lot gyda fi i'w ddweud, achos bod dim lot wedi bod yn mynd mlân!

Pnawn dydd Sul odd da ni Cemetery Walk yn Vega Church (chi'n ynganu fe veejee). Ath e'n itha da, odd y tywydd yn wych a digon o bobl di troi lan odd yn grêt. Ma llunie ar Picasa (linc ar y chwith) ac ar facebook, ar dudalen facebook newydd Canolfan Madog. Ewch draw i gefnogi os nag ych chi wedi yn barod!! Beth odd e odd pobl yn gwisgo lan mewn dillad cyfnod (os on nhw'n gallu) a darllen bach o hanes rhywun odd wedi'u calddu yn y fynwent, wrth sefyll ar fedd y person na. Braidd yn sbwci i feddwl amdano fe, ond odd e'n neis, ac yn ddwrnod perffeth ari gyfer e. Ar ôl dod nôl goginies myffins blueberry hyfryd (os wy'n gweud yn 'unan!) a phice ar y mân. Ath y pice ar y mân i'r rhewgell fel bod dim RHAID i fi neud rhai tro nesa ma angen nhw - dewn nhw'n syth mas or rhewgell!

Sôn am sbwci, ma Calan Gaeaf yn HIWJ mas fan hyn. Ddim yn siŵr os wy di gweud cyn hyn ond ma addurniade galôr wedi bod ambwyit' lle ers mis o leiaf, sy'n hollol ridicilys i fi, ond na ni. Wy'n itha lico bod nhw'n rhoi pwmpens a gourds (fel pwpens gyda darn tene hir yn dod mas ohonyn nhw a ma nhw'n galed ac yn amrywio mewn lliw - oren, gwyrdd, melyn ayb), a chorn a phethe felna lan, beth ma nhw'n i alw'n Fall Decorating so ma na lot o liwie'r hydref ambwyti. Ond ma addurniade Calan Gaeaf yn mynd dros ben llestri, yn gwmws fel addurniade Nadolig, lan am fis - too much bobl, too much!! Am ryw reswm ma lot o bobl mewn sywddfeydd yn gwisgo lan heddi, a wy ddim yn siŵr pam.....

Ni'n parhau i symud pethe lawr stâr (addurniade ayb yw'r mwyafrif, llunie a chlocie a phethe), ac ma'r lle yn edrych yn well bob dydd. Wy'n rili lico'n swyddfa newydd. Rhaid gweud wy erioed wedi cael sywddfa i'n hunan, a ma daf i un fan hyn a ma fe'n rili neis. Bydd e'n od gorfod mynd nol rannu sywddfa, ond oleiaf byddai'n llu siarad da pobl wedyn!!

Ar hyn o bryd dyw Evan Davis (fe a'i wraig Bet sy'n noddi'n swydd i) ddim yn dda iawn, so wy'n gobitho bydd e'n well cyn bo hir.

Cenfigen o'r mwyaf yw gwbod bod Côr Caerdydd yn Rwmani a Hwngari ar hyn o bryd. Gobitho bo chi' joio!!!

Comments

Unknown said…
Fi'n werthin am yr addurniade! Fi'n gallu gweld ti'n mynd yn p**sed off da nhw!

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

mis Mawrth yn barod!

I Miriam a Daisy