Welsh Heroes

Heb sôn am hwn, sai'n credu. Ond ma cyn Faculty Fellow canolfan Madog, Benjy Davies yn cal i waith wedi'i arddangos yn y French Art Colony. Y gwaith sy'n cal i arddangos yw'r gwaith wnath e pan odd e'n Faculty Fellow a ma fe'n seiliedig ar y 100 arwr Cymreig yn ôl Culturenet Cymru (ma'u herthygl nhw ar y peth fan hyn - a ma linc o fan na i'r arddangosfa sydd, os nagych chi am ddarllen yr erthygl fan hyn!) Wy'n credu bod y graffigwaith yn rili cŵl a diddorol. Cymrwch bip a phenderfynnwch chi os ych chi'n lico nhw neu bido. Yn hoff rai i yw Grav a Gareth Edwards.

Wy newydd fod yn siarad gyda Clay Price - y Cyfarwyddwr Cerdd newydd ma yn Rio Grande. Er fy holl holi o gwmpas, odd neb yn gwybod, neu ddim am weud tho fi - bod côr cymunedol ma yn y brifysgol. Idiots. Ta beth. Nes i ebostio fe yn gweud bo fi ma a licsen i ddechre côr os nagpodd un yn bodoli'n barod a ddath e draw ma i gal chat. Boi hyfryd. Sgwn i fel byddech chi'n disgwyl i rhywun o'r enw Clay ddishgwl? Wel yn y mhen i odd rhywun ru'n seis a Chief Wiggum. NA. Rong Sioned! Odd e'n debycach i seis Olive Oyl, hihi! SO ma nhw'n ymarfer ar nos Lun 7-9pm so wy'n mynd (as if you had to ask). Neud rhywbeth gan Schubert (sai'n cofio beth nawr - mass in G minor falle?) a ymarfer pethe Nadoligaidd ar gyfer y cyngerdd Nadolig, sydd ar ddydd Sul 22 Tachwedd!!! Ma pobl yr ardal ma yn od rhaid gweud!!

Wel na ni, rhaid i fi weud bod hwna wedi'n llonni i miliyns a piliyns. hapus.

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!