Cleveland a Cholumbus

Wedi bod i Cleveland a Cholumbus penwythnos ma - lot o ddreifo!! Yrres i lan i Cleveland bnawn dydd Gwener - gymrodd hi llai o amser na'r disgwyl, 4 awr a hanner gan gynnwys sdopo am ugen munud i gal bwyd. On i'n mynd i aros gyda Chloë ffrind i Llio o'i chyfnod hi'n Iwerddon, a nes i gwrdda hi pan es i gwrdda Llio yn Columbus mewn priodas mis dwetha. Ma Cleveland yn bert o beth weles i a odd i theulu hi a'i ffrindie'n rili neis fyd.

Nos wener ethon ni am gwpwl o ddrincs gyda ffrind i Chloë. Wedyn dydd Sadwrn on ni fod i fynd i weld sights Cleveland ond ethon ni i'r farchnad, cal dishgled o goffi/te a wedyn i weld ffrindie i'r teulu a wedyn dodd dim amser i neud dim arall gan bod ni'n mynd mas am fwyd nos Sadwrn. Ethon ni i'r Great Lakes Brewin Company - cwrw hyfryd ac ymesing. Bwyd neis. Ethon ni am ddrinc ar ol ny wedy gytre.

Wedyn lawr a fi i Columbus bore dydd Sul i gasglu Lowri Sion wedyn draw i'r Gymanfa Ganu. nath y ddwy ohono ni rili joio, odd hi'n gymanfa well na'r un yn Ty'n Rhos, a lot mwy o bobl na. Odd y bos wedi gweud bydde siwr o fod agos at 300 na, ond fel arfer, fel ma'r americanwyr ma'n neud odd hi'n gorddweu. Ond odd rhwng 100 a 150 na fi'n credu. Wedi ny es i a Lowri nol i'r campws ac am wac rown y campws - odd yn ymesing iawn iawn!! waw yw'r cyfan weda i!!!

Ma'r swyddfa'n symud lawr llawr dydd Mercher a ma Cemetery Walk da ni yn Vega Church dydd Sul (Vega pronounced Veejee - eto, americanwyr a'i diffyg i allu ynganu geirie'n iawn!!)

Ta beth, na'r penwthnos a fu a'r wythnos sydd i ddod. Ma'n annwyd i dal yn hongian mlan yn anffodus a wy wir ddim am fod ma heddi, ond na ni - ma cor heno, so ma rhaid i fi fod ma rili!! tan toc...

Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

mis Mawrth yn barod!

I Miriam a Daisy