mis Mawrth yn barod!

Wel co ni wedi cyrradd ms Mawrth yn barod! Ma amser yn mynd yn itha cloi nawr! Pythefnos i nawr bydda i a Mam a Dad wedi cyrraedd Stowe Mountain Lodge, a falle hyd yn oed yn cal sgïad fach!! A wedyn pythefnos ar ôl ny, fi a Cerith yn mynd i Efrog Newydd am gwpwl o ddyddie!! Rili egseitid am y ddau beth. Os os da unrhyw un unrhyw tips am Efrog Newydd, lemme have it. Ar hyn o bryd ni wedi trefnu mynd i Lliberty ac Ellis Island ac i weld Avenue Q. Ni'n moyn mynd i weld y Brooklyn bridge a'r sights i gyd. Gadewch goment neu ebostiowch fi gydag awgrymiade o lle i fynd!

Prif bwrpas y postiad ma yw hyn: Wy wedi bod yn edrych nol dros fy mlogio ers i fi gyrradd, a wy'n sgwennu llai a llai bob mis, so wy'n mynd i rili trial sgwennu o leiaf ddwywyaith yr wythnos, cyn belled a bod RHYWBETH da fi i weud!!

Wy wedi bod mewn dosbarthiade 4th grade (plant 8/9 oed fi'n credu) ysgolion Gallia Local dros yr wythnose diwethaf yn gwneud sesiynau ar Gymru gyda'r plant. Siarad am dreftadaeth, hanes a'r iaith yn bennaf. Ma'r plant i gyd wedi bod yn mwynhau dysgu shwt i gyfri i 10 yn Gymrag a dysgu lliwie'r enfys a chyfarchion yn Gymrag. A ma nhw'n RILI dwlu ar y faner! Gobeithio y byddwn ni'n gallu mynd nol i'r ysgolion o fewn y misoedd nesaf i gael rhy fath o follow up.

Nes i gwyno wthnos ma ar Twitter (ac i Morgan yn uniongyrchgol), nad on i'n gallu helpu gydag Ymgyrch y Blaid leni. Wy fel arfer yn gwneud gyment a galla i, a rhaid cyfaddef ers gadel Aber wy ddim wedi neud cyment, ond wy wastad yn helpu dosbarthu ayb. So ges i ebost gan y prifweithredwr yn gofyn fasen i'n gallu cyfieithu/prawfddarllen. Wel gan bod dim lot fawr da fi i wneud mas ma ar hyn o bryd, gytunes i gyfieithu, so na beth wy'n neud ar hyn o bryd yw cyfieithu i'r Blaid, rili twmlo felse fi'n helpu nawr! Braidd yn anodd mynd nol mewn i'r swing o gyfieithu, yn enwedig pan ma terme technegol yn ymddangos, ond wy'n neud yn oce wy'n gobitho.

Ma hi wedi troi'n braf erbyn hyn, dylse'r penwthnos fod yn bert iawn. Dyw hi ddim yn dwym iawn to, ond wy'n siŵr eiff hi'n itha twym yn itha cloi cyn bo hir. Ma hi'n Ginio Gŵyl Ddewi ein hardal ni nos fory. So yn Oak Hill erbyn 9am bore fory i helpu addurno'r neuadd, wedyn nol erbyn bwyti 5:30 ar gyfer y cinio. Fi sy'n arwian y canu, eto! Fi yn dishwgl mlan a wy wedi dod i fwynhau'r arwen busnes ma tamed bach!! woch owt weda i!!!

O a cyn i fi anghofio - PENBLWYDD HAPUS I DAD aka Wyn aka Mr Situation!xxx

Comments

Cez said…
Start spreading the neeeeeeeews!
sioden said…
*leg kick* dw dww *leg kick* dwww di dw *leg kick* dw dww *leg kick* dwww di dw.....
Cerithimbo said…
you should move to the other side of the pavement if you're kicking though so much dw dww!! ych a fi!
Cara said…
TRY TRY TRY and go to Williamsburg in Brooklyn. It's really nice, and different to Manhatten. A lot of kookie shops, and laid back cocktail bars.

I really enjoyed chinatown when I went. Again, I think it's mainly because it's so different to the rest of New Yawk.

And one tip- watch out for flashers. We got a glimps of a todger on the subway. YCH!

A cofia joio, fe gei di amser wych!! xxx

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru