Blogiadau am fy anturiaethau, meddyliau a syniadau di-ri, di-sens
Symud Swyddfa part tw
Get link
Facebook
Twitter
Pinterest
Email
Other Apps
Ni wedi symud mewn i'r Swyddfa newydd nawr - hwre. Gymrodd hi lot o'r dwrnod, ond o leiaf nawr ma swyddfa go iawn da fi, a sdim rhaid mynd lan y stâr hynod anniogel bob bore!!!joio. co ni lun o'r swyddfa newydd
Get link
Facebook
Twitter
Pinterest
Email
Other Apps
Comments
Cerith said…
swyddfa newydd yn edrych yn lovely!! ife swyddfa i ty yn unig iw e?! Homely dros ben!! Smo'r link yn gwitho i agor y llun o'r hen swyddfa yn fowr, ond fin siwr bod yr un newydd yn neisach!
Cyfrannwyd nifer o eitemau gan Dr Robert Burns, Florida i Amgueddfa Treftadaeth Cymry America yn Oak Hill, Ohio. Roedden nhw'n perthyn i'w ddiweddar wraig oedd a'i theulu yn hannu o Gymru (fel ei deulu ef). Byddwn i'n ddiolchgar iawn pe bai gan unrhywun wybodaeth allai fod o help i ni ddarganfod gwerth (er mwyn yswirio, ac er mwyn dibenion treth Dr Burns) neu mwy o wybodaeth ynghylch unrhyw rai o'r darnau. Mae lluniau o bob darn o sawl ongl mewn albwm picasa, ac mae'r albwm i'w gweld fan hyn . Hyd yn oed os nag oes gwybodaeth gyda chi, edrychwch ar y llunie ma nhw'n ddiddorol iawn, a ma'n siwr bod rhywbeth na sy'n debyg i rhywbeth sydd gyda chi yn y teulu, a bydden i'n ddiolchgar iawn o gal gwbod am unrhywbeth fel na! Gadewch neges yn ymateb i'r blog, anfonwch neges twitter neu neges facebook neu anfonwch ebost atai sionedwyn@googlemail.com. Falle bydde diddordeb gyda chi'n gweld y ddwy ddogfen ma fyd. Declaration of Intent Anne gwr
So pedwaredd ar bymthegfed o Ragfyr, a ni nôl i locdown arall. Sai'n credu bod neb yn synnu rili. Ond fi'n credu bod yr amseru wedi bwrw pobl oddi ar eu hechel. Odd hi'n eitthaf amlwg nad oedd bwytai a siopau'n gwybod ei fod yn digwydd. Ond diolch byth mai nid dyma'r tro cyntaf, wnaeth llawer iawn o sefydliadau lwyddo i aros ar aor yn hwyr neithiwr, neu slioio mewn i têcawe ar gyfer heddi. sydd yn rhywbeth o leiaf. Ond ma hyn wedi bwrw teuluoedd a ffrindiau hyd y oed yn galetach na neb arall. Mae wedi amlygu mai beth sydd wir yn bwysig i bobl yw bod gyda'i gilydd. Gewch chi gadw'ch anrhegion, jest rhowch i fi gwtsh da'r teulu i gyd. Yn bersonol wy'n cytuno gyda'r cyfyngiade. Ma hi'n argyfyngus mas na. Ond iyffach gols ma fe'n anodd. Ni gyd yn gwbod bod e'n anodd, ac ŷ'n ni gyd am wned y gore o bethe. Fe fydd pethe'n well cyn bo hir. Fe gewn ni weld ein gilydd to. Ac fe gewn ni gwtsh. Os oes na rhywun yn sdryglo ac angen help
Helo gyfeillion, Mai di bod yn sbel. Si'n byth yn siŵr beth sy'n yn ysgogi i i sgwennu hwn. Licen i wneud yn fwy aml, ond fi'n ymwybodol nad oes na ddim lot o ddim yn digwydd ar hyn o bryd, so ma rhaid cal rhywbeth i'w weud spos. (ond wy dal ddim yn sicr be fi am weud heddi, so pob lwc os chi'n darllen hwn....) Wy wedi bod yn meddwl lot fawr am y 'dolig leni. Mwy nag arfer? Sai'n siŵr. I fi ma 'dolig yn aml yn dechre mis Medi gydag ymarferion corau gwahanol ar gyfer cyngherdde ac ati. A ma hi'n amhosib peidio fel arfer gan bod siope yn blastio'r gerddorieth i bobman. Leni, sai di rili bod i siop, a sdim hawl da nhw blastio cerddoriaeth chwaith. Erbyn amser hyn mis Rhagfyr fel arfer base na sawl parti dolig di bod, a nifer di-ri o gyngherddau a chanu carolau ym mhob cornel o Gaerdydd. Fi'n gweld ishe canu shwd gyment, ac yn enwedig amser hyn o'r flwyddyn. Ma cyngherdded Nadolig yn bethe bach itha sbeshal. Nid achos mod i'n berson sy
Comments