Posts

Showing posts from 2020

Diolch 2020

Image
Neithiwr fe es i drwy bob lun dynnes i yn 2020. A waw nath e roi gwên ar yn wyneb i. Er na fydde’r lunie’n golygu bron dim i chi, ma nhw’n atgof o flwyddyn anodd, ond hefyd yn atgofion o ddyddie oedd yn syrpreising o dda. O feddwl nôl dros 2020 wy wedi chwerthin lot lot lot, ac wedi cael amser bythgofiadwy gyda ffrindie sydd wedi dod yn agosach dros y cyfnod. Peidiwch â nghael i’n rong, wy wedi llefen hefyd, mwy nag unrhyw flwyddyn ers iddyn nhw ganslo Wil Cwac Cwac. Ond yn aml iawn ma’r llefen di bod yn lefen hapus, neu’n gathartig, a beth yw’r ots ta beth?! Ma llefen yn neud lles. Ma’r llune yn lot o atgofion da o sgïo dros y flwyddyn newydd da criw da o ffrindie hen a newydd. Eira, golygfeydd grêt, lot o gaws a gwin, a lot o joio.  Eisteddfod Caerdydd!! Cymysgfa o lunie chwe gwlad, gan gynnwys rendition poignant o Sweet Caroline (touching meeeee, touching yooooou), cwpwl o gigs (cofio gigs, waaa), Tylwyth yn y Sherman (!!) a wedyn lockdown. Drwy gydol yr amser fues i’n byw g...

lefel 4 = lockdown

So pedwaredd ar bymthegfed o Ragfyr, a ni nôl i locdown arall. Sai'n credu bod neb yn synnu rili. Ond fi'n credu bod yr amseru wedi bwrw pobl oddi ar eu hechel. Odd hi'n eitthaf amlwg nad oedd bwytai a siopau'n gwybod ei fod yn digwydd. Ond diolch byth mai nid dyma'r tro cyntaf, wnaeth llawer iawn o sefydliadau lwyddo i aros ar aor yn hwyr neithiwr, neu slioio mewn i têcawe ar gyfer heddi. sydd yn rhywbeth o leiaf. Ond ma hyn wedi bwrw teuluoedd a ffrindiau hyd y oed yn galetach na neb arall. Mae wedi amlygu mai beth sydd wir yn bwysig i bobl yw bod gyda'i gilydd. Gewch chi gadw'ch anrhegion, jest rhowch i fi gwtsh da'r teulu i gyd.  Yn bersonol wy'n cytuno gyda'r cyfyngiade. Ma hi'n argyfyngus mas na. Ond iyffach gols ma fe'n anodd. Ni gyd yn gwbod bod e'n anodd, ac ŷ'n ni gyd am wned y gore o bethe. Fe fydd pethe'n well cyn bo hir. Fe gewn ni weld ein gilydd to. Ac fe gewn ni gwtsh. Os oes na rhywun yn sdryglo ac angen help ...

Dolig dw dw dw

Helo gyfeillion, Mai di bod yn sbel. Si'n byth yn siŵr beth sy'n yn ysgogi i i sgwennu hwn. Licen i wneud yn fwy aml, ond fi'n ymwybodol nad oes na ddim lot o ddim yn digwydd ar hyn o bryd, so ma rhaid cal rhywbeth i'w weud spos. (ond wy dal ddim yn sicr be fi am weud heddi, so pob lwc os chi'n darllen hwn....) Wy wedi bod yn meddwl lot fawr am y 'dolig leni. Mwy nag arfer? Sai'n siŵr. I fi ma 'dolig yn aml yn dechre mis Medi gydag ymarferion corau gwahanol ar gyfer cyngherdde ac ati. A ma hi'n amhosib peidio fel arfer gan bod siope yn blastio'r gerddorieth i bobman. Leni, sai di rili bod i siop, a sdim hawl da nhw blastio cerddoriaeth chwaith.  Erbyn amser hyn mis Rhagfyr fel arfer base na sawl parti dolig di bod, a nifer di-ri o gyngherddau a chanu carolau ym mhob cornel o Gaerdydd. Fi'n gweld ishe canu shwd gyment, ac yn enwedig amser hyn o'r flwyddyn. Ma cyngherdded Nadolig yn bethe bach itha sbeshal. Nid achos mod i'n berson sy...

Pryd gewn ni ganu nesaf?

Image
Na'i gyd sy ar y meddwl i ar hyn o bryd yw canu. Ddydd Sul on i'n gwrando ar Robat Arwyn a ddechreuodd e whare côr yn canu un o ddarne Karl Jenkins, a gorffes i droi fe bant ar ôl rhyw bymtheg eiliad achos odd e'n atgoffa fi gyment o'r math o beth fasen ni'n canu yn y côr. Odd e'n mynd i ypseto fi gomod. A falle bod rhai ohonoch chi'n meddwl bod hwna'n pathetic, ond na ni. Fel na ma hi. Fi jest ishe gwbod pryd gewn ni ganu go iawn nesaf. Canu go-iawn fi'n golygu. Dim canu côr rhithiol (sy'n lyfli ac yn lot o hwyl, a ma fe'n wych gweld ffrwyth llafur pawb yn y pen draw), a dim ymarferion dros zoom (sydd ffrancli yn torri  nghalon i ). Canu go iawn. Cystadlu mewn steddfod leol. Cystadlu yn y steddfod gen. Perfformio ar lwyfan Canolfan y Mileniwm. Perfformio mewn neuadd bentre chwyslyd. Canu yn y capel. Canu yn y pyb. Canu yn tŷ Rich a Pritch o gwmpas y piano ar ôl sesh. Canu unrhywle ond ar ben yn hunan yn y tŷ. Unrhywle. Unrhywle.

Gwisga dy fasg

So. Co ni nôl yn lockdown. Wel fi yn o leia, a rhan fwya o'r wlad. Ma'n gyfnod anodd ac od. Fi di darllen sawl peth yn ddiweddar am bwyti'r 'six month wall' neu'r 'six month fatigue'. Mae e'n gyffredin pan fod rhywun yn mynd drwy gyfnod fel hyn (unrhyw gyfnod sy'n achosi trawma fel ma hwn yn), i gyrraedd pwynt tua chwe mis mewn lle ma'r awydd i ddianc yn oruwch na dim. Ac yn anffodus allwn ni ddim dianc rhag hwn. Ni wedi cael haf hyfryd i drial dianc chydig bach, ond nawr ma fe nôl i fod yn ful blown. A ma hi'n mynd i fod yn anodd. Ma hi'n barod yn anodd. Ma'r tywydd gachu ma ni'n cael penwthnos ma ac ers wythnos ddim yn hepl o gwbl. Ond ni dal yn gallu cwrdd tu fas (dan gazebos cadarn!), ac mae e'n hynod bwysig ein bod ni dal yn neud. Mae na fusnese bach, tafarndai annibynnol, a bwytai yn mynd i sdryglo dros ycyfnod ma, fel ŷn ni am sdryglo. Fi'n credu bod hi'n bwysig ein bod ni'n eu cefnogi nhw gyment ag y ga...

Di-deitl, di-gyfeiriad

Mae di bod dros bythefnos ers i fi flogio ddiwethaf, dros bythefnos ers claddu mamgu. Fi dal yn anghofio weithie ei bod hi wedi mynd. Don ni ddim yn siarad yn aml. Dodd hi byth yn ffonio fi, am ba bynnag reswm, a don i ddim yn ei ffonio hi’n ddigon aml chwaith. Erbyn y diwedd odd hi’n anos ei ffonio hi am sawl rheswm. Am un peth, odd hi mewn cartref gofal a dodd dim ffôn ei hunan gyda hi. Am beth arall, hyd y oed cyn ei bod hi yn y cartref, odd hi’n dechre colli ar ei hun. Felly odd cael sgwrs ddim wastad yn fuddiol iawn. Dim esgus, jest ffeithie. Ni wedi bod draw yn ei thŷ hi yn edrych drwy ei sdwff hi. Ma lot o atgofion yn lot o’r pethe sydd na. Ond oedd hi’n mini hoarder hefyd. Bydde hi’n cadw papur lapio a’i fflatno fe lawr. Ond doedd hi braidd byth yn rhoi anrhegion (oedd well da hi rhoi arian...), felly Duw ŵyr pam ei bod hi’n cadw fe. Ta beth, fi wedi etifeddu rhai o’i llestri amrywiol hi, ac yn edrych mlaen i’w defnyddio nhw a meddwl amdani. Ta beth, erbyn hyn ry’n ni’n de...

Claddu yn amser Cofid

So. Ma angladd mamgu fory. Ma hi'n mynd i fod yn anodd am gyment o resymau gwahanol. Am yr holl resyme ma angladde wastad yn anodd. Plys fi'n hollol iwsles da angladde ta beth. Plys dim ond 7 o ni fydd na. Felly fory fyddwm ni'n mynd lawr yr M4 yn gyfreithlon, yn torri'r rheol 5 milltir i fynd i angladd Mamgu. Ond fydd hi ddim yn angladd arferol. Ni'n mynd i dŷ mamgu am wasanaeth breifat - lle fydda i a Ieu a Llill yn canu (Duw yn unig a ŵyr shwd eiff hyn), dyna oedd Mamgu ishe. Ond sai'n credu odd hi'n rhagweld mai dim ond ni'r teulu fase na pan wedodd hi mai dyna oedd hi ishe. Wedyn fyddwn ni'n mynd i'r fynwent. Ac fe fydd na rhai pobl eraill yn cael cwrdd â ni na, ond dim ond achos mai tu fas fyddwn ni. Sai ishe i neb ohonoch chi deimlo'n flin drosto ni, achos ma marwolaeth yn beth naturiol a normal. Yn enwedig i fenyw 94. Ond ma hi jest yn od.  Does dim byd yn normal am angladd yng Nghymru, i fenyw oedd braidd yn siarad Saesneg (S4C drwy...

I Miriam a Daisy

Ni gyd yn gwbod bo d y cyfnod ma yn anodd i bawb. Ac un o rinweddau’r holl bandemig ma yw bod pobl yn mynd yn dost ac yn marw. Ac yn anffodus ma bywyd yn mynd yn ei flaen, fel oedd e’n gwneud o’r blaen, ac fel fydd e’n gwneud to. Y gwahaniaeth ar hyn o bryd yw bod popeth yn wahanol, a bod teuluoedd yn ffili bod gyda’i gilydd. Fis mewn i’r cyfnod cloi ma gaeth fy ail nith ei geni. Miriam Haf Wyn. Chwaer fach i Greta Marged, ail ferch i’n frawd i Ieu a’i wraig Angharad. Mae nhw yn byw yn Llangynnwr, a gweddill ni’r Wyns yn byw yn Nghaerdydd. Achos hyn, dy’n ni ddim wedi cael gweld na chwrdd â Miriam ers iddi gael ei geni dros ddeufis yn ôl. Ni ddim chwaith wedi cael gweld Greta. Dyw hyn ddim yn unigryw i ni fel teulu o bell ffordd. Mae miloedd o Gymry ach glân gloyw wedi eu geni yn ystod y cyfnod hyn, a miloedd mwy o famgus a thadcus, neiniau a theidiau heb gael gweld eu hwyron a’u hwyresau. A ma fe’n fflipin anodd. Mewn ffordd ma Mam a Dad wedi bod yn lwcus. Lwcus achos eu bod nhw w...

True Crime Obsessive

Felly fel addewais i, dyma restr o fy hoff true crime (beth YW'R Gymraeg am hwn?!) Serial The original a probably still the best, wel y gyfres gyntaf o leiaf. Os chi'n lico podcasts a heb  wrando ar serial, sai'n siŵr lle chi di bod rili. Dechreuwch gyda cyfres 1, obvs. My favorite murder Karen Kilgariff a Georgia Hardstark, dwy fenyw o Galiffornia yn trafod llofruddiaethe. Simple as. Chi un ai yn mynd i lico nhw neu ddim. Ffomat syml, y ddwy yn adrodd stori yr un, gyda chydig o chat drwyddo fe'i gyd. Ma nhw'n mental ac yn lysh.  Crime Junkie Lot o ymchwil yn mynd mewn i adrodd hanesion llofruddiaethe ac ati. Yn bersonol sai'n 100% struck ar y ddwy sy'n cyflwyno, ond ma'r ffordd o adrodd y stori'n dda ac yn drefnus.  End of Days Podcast am David Koresh a'i ddilynwyr. Yn benodol y bobl o Brydain aeth draw i Waco, Texas a fu fawr na hefyd. Podcast da iawn gan BBC Radio 5 Live. Manhunt: Finding Kevin Parle Podcast (gan 5 Live) ongoing am chwilio am ...

Shreds

Image
Ma rhai o chi'n ymwybodol o fy obsesiwn gyda true crime. Ma fe di bod na ers erioed fi'n credu, ond mae podcasts am true crime wedi golygu bod fi'n gallu gwrando to my heart's content. On i am rhoi rhestr i chi, ond bydd rhaid i chi aros am y rhestr. Yng ngoleuni'r hyn sydd wedi bod yn digwydd ar draws y byd o ganlyniad i lofruddiaeth George Floyd, fi'n credu mai ond un podcast alla i argymell i chi, a Shreds yw hwnnw. Os odych chi'n credu nad oes problem hilaeth gyda ni ym Mhrydain, meddyliwch eto. Os chi'n meddwl nad oes problem gyda ni yng Ngymru, meddyliwch eto. Falle bod pethau yn ymddangos yn well weithiau, ond dyn nhw ddim. Mae angen i bobl wyn (fel fi), fod yn well. Mae angen i ni addysgu ein hunain a'n gilydd. Mae angen i ni sefyll lan a chamu mlaen pan fyddwn ni'n clywed a gweld hiliaeth yn digwydd. Dyw hi DDIM yn ddigon da i jest peidio â bod yn hiliol, mae angen i ni fod yn weithredol wrth-hiliaeth. Wy ddim wedi gwneud digon o ymchwil...

Mwy o argymhellion podcast

Ar ôl gweud bod fi am flogio mw, sai di gwneud ers mis nawr! Erbyn hyn mae hi'n dros ddeg wythnos ers i ni fod yn y lockdown ma. Erbyn hyn ni'n cael cwrdda un cartref arall ar y tro tu fas. Sy'n rhywbeth, ond mae hi'n amlwg yn dal i fod yn anodd. Ma dal rhaid i ni aros 2 fetr wrht ein gilydd, felly er ein bod ni'n cael gweld ein teulu a'n ffrindie, does dim modd rhoi cwtsh na dim byd, sy'n anodd. Ta beth, fe wnes i addo argymell podcasts do?! Wel dyma ni te. Fi am argymell tri, a ma'r tri yn eithaf gwahanol. The Allusionist Ma hwn yn bodcast am iaith, ac mae e werth mynd yn ôl i'r dechre i wrando arnyn nhe i gyd. Dy'n nhw ddim yn 'time sensitive' o reidrwydd (hynny yw, allwch chi wrando arnyn nhw mas o drefn, a dy'n nhw ddim rili yn sôn am beth sy'n mynd mlân yn y byd). Mae gyda hi bennod am y Gymraeg ym Mhatagonia , sy'n rili dda ac yn ddiddorol. Ma fe'n un i bigo mewn a mas ohono fe. Er mae'r cwpwl o benodau mwyaf di...

Un bach cloi

Image
Wel ma hi’n ddydd Gwener, gŵyl y banc cynnar mis Mai. Ma hi hefyd yn VE day. Sim amser da fi ymhelaethu ar fy marn ar hwnna am nawr. Safe to say, nad oedd bynting o unrhyw fath o gwmpas y tŷ heddi. Falle nai flogio amdano rhywbryd, dim nawr! Nawr bod Mr Drakeford (ein prif weinidog ni ma yng Nghymru rhag ofn ei fod wedi llithro yn angof yng Nghymru’r dyfodol) wedi cyhoeddi y bydd Cymru ar dair wthnos arall o lockdown gyda rhai amrywiade posibl i gynghorau lleol eu rhoi mewn lle. Grêt. Y broblem fawr yw cael yr IDIOTS i wrando ac i aros fflipin gytre. Twmlo bach yn feddylgar-ddiolchgar pnawn ma. Na beth sy’n dod o fod mewn isolation da dy rieni a dechre yfed amser cinio spos. Sai wedi sôn, ond ma nith fach newydd sbon danlli da fi. Gath hi ei geni ar y pedwerydd ar hugain o Ebrill. Ma hi’n byw da’i rhieni a’n nith fach gorjys arall i yn Llangynnwr. Ac yn amlwg felly chaf i ddim ei gweld hi na rhoi cwtsh iddi am y tro. Ma fe’n anodd. Ac yn rhwystredig. Ond ma pawb yn yr un twll, a ma...

LLWYDDIANT!

Image
Wel, odd y surdoes yn llwyddiant ysgubol! Odd e'n lot fwy involved na'r tro diwethaf. Ddechreues i fe nos Wener, a'i bobi fe bore Sul! Ond jiw odd e werth e, ac mewn gwirionedd, doedd dim angen lot  o amser yn actiwali gwneud unrhywbeth, ond bod angen plygu'r toes am tua munud bob tri chwarter awr am rhwng 3 a 4 awr. Ond dyma'r canlyniad. Ma'r dorth yn edrych braidd yn drist, ond odd hi'n fflip o dorth! Dodd hi ddim yn ofnadwy o sur, fel petai, felly ddim y blas surdoes traddodiadol. Odd hi'n blasu fel torth wen arferol, ond gyda gwead toes surdoes! chi'n llu gweld y wyneb yn y dorth?! y cross-cut hollbwysig - on i'n bles iawn da hwn! ac wrth gwrs, sdim lot gwell na bara menyn a jam cwrens duon - lysh. So yn dilyn mlaen o mhostiad diwethaf i, wy am argymell podcast arall. Olive Magazine  yw'r podcast - podcast am goginio a bwyd ac ati. Ma fe'r math o beth chi'n gallu jest gwrando arno fe yn y cefndir, neu ddim! Digywdd bod y bennod ol...

Back to the surdough

SO!! Ma'r starter yn dod yn ei flaen yn rili dda erbyn hyn. Wedi cael ei drydydd bwydad heddi. Un arall for a drennydd, ac fe fydd e'n barod i bobi torth neu ddwy arall gobeithio!! Ar ôl methu'r tro cynta (a'r troeon eraill wy di trial yn y gorffennol), wyn gobeithio wneiff hwn weithio. Gan gofio wrth gwrs mai gwreiddyn y starter yma yw'r starter ddechreuais i ddechre'r lockdown, so dyw e ddim yn hollol newydd! Fi wedi bod yn gwrando ar lot o bodcasts ac ati'n ddiweddar, ac felly on i'n meddwl falle y basen i'n rhoi chydig o argymhellion os oes na bobl ishe. Er gwybodaeth yr ap wy'n ddefnyddio ar gyfer podcasts yw overcast . Y peth wy'n lico fwyaf amdano fe yw bod modd creu 'playlists' o bodcasts. Felly bob tro mae na rifyn newydd yn dod mas, mae'n mynd i ddiwedd y playlist o bodcasts. Felly os wyt ti'n gwrando ar nifer o bodcasts gwahanol, mae modd cadw i wrando ar y llif heb fyd o bodcast i bodcast. Yn ogystal, un person sy...

Coginio

Wy wedi sôn gwpwl o weithie mai un o'r pethe sy'n cadw fi i fynd fwya drwy'r cyfnod ma yw coginio. Wy wastad wedi mwynhau coginio, fel arer neud ryseitiau lan and go with the flow. Wy hefyd wrth yn fodd gyda phobi, ond ma hwnna wedi bod yn llawer llai llwyddianus y gyffredinol, Ma hyn y bennaf achos bod fi ddim rli yn precise iawn. Pan wy'n coginio, ma fe'n bach o hwn a phinsied o'r llall, dash o rhywbeth a llond llaw o hwnna. Er gwybodaeth i ddarllenwyr y dyfodol pell, un o'r pethau sydd wedi bod yn fwyaf prin yn y siope yn ystod y cyfnod od ofnadwy ma, yw blawd a burum. Odd itha peth burum da fi cyn dechre, ond dim lot o flawd, ac yn sicr dim lot o flawd bara. Ar ôl chwilio a chwalu mhobman am flawd bara (os fi'n onest, sai wedi gweld blawd yn y siope ers mis), daeth Ebay i'r fei. Ffindies i 16kg o flawd bara ar werth, felly odd rhaid prynnu. Fi'n dognu fe mas i'w werth i ffrindie, os oes pobl ishe! Ond heblaw ny, fe wna i'n sicr ei dde...

Am faint neiff hyn bara?

Heb flogio ers sbelen fach nawr, Oedd e'n teimlo braidd yn od sgwennu jest er mwyn sgwennu. Odd teimlo bach fel dyddiadur, a sneb rili  ishe darllen dyddiadur rhywun arall na? Wel erbyn hyn ne wedi bod ar lockdwn ers dros dair wythnos, sy'n golygu mod i wedi bod yn byw yn y cartws da mam a dad ers dros dair wythnos..... Ma tair wythnos arall o leiaf gyda ni i fynd fel hyn, a siwr o fod mai fan hyn fydda i. Wy'n teimlo'n lwcus iawn bod cwmni da fi, a ma mam a dad yn gweud bod nhw'n hapus bo fi ma... am nawr! Un peth wy'n credu sy'n cadw ni'n tri i fynd, yw bwyd a byta. Ni'n byta pryd o fwyd deche bob nos, a hyd yn hyn, heb rili gael yr un peth fwy nag un noson. Peth arall sy'n cadw fi fynd yw cadw lan gyda ffrindie, a gyda'r corau. Rhaid i fi fod yn hollol onest, wy'n gweld ishe canu yn fawr iawn. Fi'n canu i'n hunan pan wy'n gallu, ond does dim i guro cydganu mewn côr. Fe wnaeth Côr CF1 baratoi perfformiad rhithiol i un o...

Out like a lamb

Ys dywed y Sais, in like a lion out like a lamb. Sai'n credu bod na'n berthnasol nac yn briodol i mis Mawrth ma. Sdim UN PETH alle wedi digwydd ddechre'r mis galle fod wedi raglweld bod diwedd mis Mawrth fel hyn. Wy ddim am honni mod i'n hen iawn (er mod i'n teimlo felly weithie), nac yn un sydd â phrofiad oes. Ond alla i ddim cofio cyfnod fel hyn o'r blaen. Ond eto erbyn hyn ma'n teimlo'n hollol normal, er mor hollol abnormal ar yr un pryd. Os wyr'n hollol onest, sdim celm be ddylsen i sgwennu yn y blo ma o nawr mlaen. Mae'n teimlo'n ddiangen sgwennu beth sy'ndigwydd yn y newyddion, gan bod digon o gofnod o hwnw. Mae'n teimlo'n overindulgent sgwennu nheimlade, er ma'n siŵr ma dyna sydd yn fwyaf naturiol yn y pen draw. Felly am nawr rhyw hanner a hanner. Ni wythnos mewn i'r forced lockdown. Fi gyda mam a dad, ac yn lwcus iawn. Ma bywyd yn weird ac yn anodd, Ma bywyd yn cylchdroi o gwmpas bwyd - ni'n cynllunio pob p...

Diolch GIG - 26 Mawrth 2020

Ma hi'n itha amlwg erbyn hyn bod pob diwrnod yn mynd i lifo i'r nesaf. Felly fi wedi rhoi lan rhifo'r dyddie. A dyw na ddim rili yn helpu! Ma hi'n ddydd Iau, a ma hi dal yn braf, diolch byth. Os wy ddim wedi sôn, wy yn nhŷ mam a dad yn yr Eglwysnewydd. Ma fe er lles fy iechyd meddwl i, a gan bod fi'n gallu. Ma fe'n golygu bod gyda fi gwmni Casi'r ci, sy'n donic dyddiol, os bach yn iapi yn ddiweddar. Os chi'n meddwl nad yw cŵn yn gallu synhwyro beth sy'n mynd mlaen, chi'n rong. Ma hi wedi bod jest bach yn wahanol yn ddiweddar, ac yn sicr bod na rhywbeth gwahanol yn mynd mlaen. Felly y peth pwysig am flogio heno yw i gofio bod ni wedi bod yn cymeradwyo'r GIG heddiw am 8pm. Odd nneges wedi mynd o gwmpas cyfryngau cymdeithasol i annog pobl mas i'r strydoedd os on nhw'n gallu i gymeradwyo a gweiddio diolch i'r GIG. A dyna nethon ni. Odd e'n lyfli ac yn emosiynol iawn. A ma gweld fideos o bobman arall wedi tynnu pawb at ei g...

Diwrnod 4 a 5 - y penwthnos

Image
Wel i fi, yn bersonol, odd y pewnthnos cyntaf yn llawer llawer haws na'r dyddie cyn ny. Ma Mam a Dad yn iach, a gan mod i heb fod mewn cyswllt gyda bron neb, benderfynnodd y tri o ni bod e'n saff i fi fynd atyn nhw am chydig ddyddie. Cewch chi feirniadu os chi'n moyn, ond dyna oedd ore i ni. A fi'n gwbod bod fi'n lwcus iawn iawn i allu gwneud hynny. Dreulies i ddydd Sadwrn yn upcyclo cist oedd yn y tŷ pan symudodd Mam a Dad mewn. Llunie i ddilyn ar hwna pan fyddai wedi gorffen yr holl beth. Ond i roi tamaid i aros pryd, wy'n defnyddio paent sialc arbennig, lle chi'n rhoi dwy got o liwiau gwahanol ac yna'n sandio i gael effaith distressed, ond ynda gwahanol iwie yn dod drwyddo. A wedyn cwyr arno. Fel wedes i, llunie i ddilyn. Dydd Sul fe fues i'n coginio. Fi'n gwybod bod coginio yn rhoi pleser i lot ohonom ni, a fi'n gwybod ei fod e'n tynnu'n sylw ni ac yn rhoi rhywbeth i ganolbwyntio arno yn y cyfnod anodd ma. On i wedi cael yn fy...

Diwrnod 3 - drama cwîn

Os fi'n onest (a fi'n lico meddwl bo fi'n ot o bethe, ond sai'n credu ffeindi di unrhywun wedith bod fi ddim yn onest), odd heddi'n fflipin anodd. Sai di teimlo anobaith fel heddi erioed o'r blân. Nai fod yn onest to, sai di llefen cyment â heddi mewn dwrnod eriod, hyd yn oed mewn angladd. Odd hi'nanodd, ac i fi doedd dim ffordd rownd hyn. Ddechreues i'n gynnar yn y gwaith, a ath e'n wath o fana. Dreulies i'r dwrnod yn cyfieithu am y coronafirws, and it got to me. Odd e'n anodd, a na'i gyd odd raid fi neud odd darllen amdano. Allwch chi ddychygu beth fase fe fel i actiwali delio da fe?! Felly fi di neud penderfyniad. Fi a roi hysbysebion ar y blog ma, a bydd unrhyw arian wy'n codi o hwna yn mynd i gefnogi staff yr NHS yn lleol rywffordd. Nai ffigro'r manylion mas to. Cwbl wy'n gwbod yw, os ni'n llefen, ma nhw'n llefen, a ma nhw'n gweld gyment mwy o crap na ni. Ta beth, ma'r surdoes a fi wedi mudo  milltir i...

Diwrnod 2 - all the feels

Wel odd heddi'n bach o bopeth. Y teimlade na o fod ddim yn gallu helpu ac o ddim yn gwybod beth sy'n mynd mlaen. Ma bron pawb wy'n siarad gyda nhw'n teimlo fel hyn, ac mae e'n aml yn arwain at ddeigryn neu ddau. Ma hwna'n normal. Ma hefyd peidio llefen yn normal. Ma popeth yn normal ar hyn o bryd, achob bod popeth mor ben-i-waered. Ta beth, sai di cyffro o'r tŷ heddi. Felly o nawr mlan wy am eud yn siŵr mod i'n cael wâc bob dydd, hyd yn oed os jest rownd y bloc, ond yn ddelfrydol mwy. Dyw aros yn y tŷ ddim yn dda ar gymint o lefelau. Uchwafbwynt y dydd heddi'n sicr oedd cael cinio da'r go-girls (aka Merched y Waw) dros Skype. Chawson ni ddim sgwrs, odd gormod o ni na, ond odd e mor hyfryd gweld y ffrindie a'u plant. Nethon ni dreulio hanner yr amser yn chwerthin achos bod ni methu clywed dwy ohonyn nhw. Pethe bach. Reit ma'r starter wedi'i fwydo, a ma'n ail goctêl yn aros amdanai. Tan fory, byddwch yn neis i'ch gil...

Diwrnod 1 - surdoes, cwis a rhith-dafarn

Image
Diwrnod 1, done. Dim gormod o drafferth personol i weithio adref. Fi wedi gwneud yn y gorffennol am ddydd neu ddau. Ond gan bod hwn am fod yn gyfnod itha estyniedig, nes i benderfynnu bod *bach* yn fwy trefnus a setio rhyw fath o swyddfa lan wrth y ford fwyta. A gwneud iddo edrych a theimlo'n neis, sy wastad yn help i weithio. Tra bod eraill wedi bod yn sdocio la ar bapur tŷ bach a phasta, fues i'n sdocio lan ar gennin pedr (a gwin). Wedes i bod fi ddim yn mynd i roi ffeithie fan hyn, ond wy'n mynd i gynnwys rhai. Cyhoeddwyd bod ysgolion Cymru i gyd am gau dydd Gwener heddi. Ac wedyn na fyddai arholiadau TGAU na lefel A yn mynd i'w cynnal leni. Yn bersonol wy'n credu bod hyn yn dangos pa mor difrifol ma pobl yn wirioneddol meddwl gall hyn fynd. Os felly pam aros nes nawr i ganslo pethe...? Pethe eraill wedi eu canslo heddi - Tafwyl, gŵyl fach y Fro a Glastonbur (mewn trefn pwysigrwydd), a thunnell o bethau eraill ma'n siŵr. Wedi treulio lot o'r diwrnod y...

Not quite quarantine

Wel, so dyma ni. Ma hi'n amser bach od, sneb cweit yn siŵr beth sydd wedi digwydd, beth sydd yn digwydd na beth sy'n mynd i ddigwydd. O fory (18 Mawrth) fe fydda i'n gweithio o adre am y cyfnod sydd i ddod. A wy'n gwybod bod nifer fawr iawn iawn eraill yn yr un sefyllfa. Fi'n mynd i gadw'r blog ma fel cofnod personol o beth sy'n digwydd. Fydd e ddim yn groundbreaking nac yn arloesol. Ond jest cofnod o beth sy'n mynd mlaen o ddydd i ddydd. Fi wedi ei chael hi'n anodd y cwpwl o ddyddied diwethaf ma, oedd neithiwr yn serious low point. Ond diolch i Dduw ma da fi ffrindie da a chall a hyfryd. Mae na lot o wybodaeth mas na, lot ohono'n anwir neu'n anghywir. A lot o gynnwys cywir a defnyddiol. A kot mwy hefyd eto fyth sy'n mynd i fod yn ddefnyddiol pan fyddwn ni i gyd ar lockdown! Am nawr y cwbwl defnyddiol sda fi i weud, yw cariwch mlaen i siarad da'ch ffrindie a'ch teuluoedd amdano a golchwch eich dwylo. Cariwch mlaen i wrando a...