Posts

Showing posts from 2009

5 diwrnod i fynd!

Wel blantos, wy heb flogio ers wythnos dwetha, a wy'n ymddiheurio! Rhaid gweud ein bod ni di bod itha bishi dros yr wythnos ish dwetha ma, sy'n beth da! Ma llunie ar picasa o barti Nadolig truenus y Cardigan Club (12 odd na), odd e'n itha diflas, ond o leiaf odd y bwyd yn dda, a ches i gyfle i wneud chocolate log a thishsen ffrwythe. Ath y ddou beth lawr yn wych! Sy'n gwd a chysidro bo fi ddim rili yn coginio tishene'n aml, os o gwbl!! Ta beth, byddai gytre o fewn 5 dwrnod...gobitho!! Wy'n hedfan o Cincinnati dydd Mawrth, ond wy'n mynd i Cincinnati dydd Llun rhag ofn....Ma nhw'n gweud i bod hi'n mynd i fwrw eira dros y penwthnos mewn i ddydd Llun, so jest as well bo fi'n gadel digon o amser rili!! Byddai'n twittro'r daith gytre mwy na thebyg. Wy'n hedfan o Cincinnati i JFK i Schipol (Amsterdam) i Gaerdydd.whiw! tan toc...

Ypdêt a Moch

Jest postiad i weud bod hi wedi dechre mynd yn rili rili or ma wthnos ma a bod y tywydd mawr yn symud mawr, gan gynnwys eira a gwyntoedd cryfion! So wy wedi cal brechiad yn ebryn ffliw'r moch, am ddim ma yn y brifysgol. On nhw'n cynnig e a dodd dim rili rheswm i bido cal e - dim adwaith i'r pigiad sy'n gwd. On nhw'n cynnig e i bawb 19-24 a phobl 25-64 gyda salwch difrifol, so gan bo fi (JEST) yn ffito mewn i'r categori cynta, all was good. Llai na phythefnos nes bo fi gytre - rhaid gweud bo fi'n dishgwl mlan yn fowr iawn!! Er wy'n gwbod na fydd hi'n ddolig gwyn fel ma hi'n debygol o fod mas fan hyn!!1

Nadoligeiddio

Wel wy yn y mŵd am y Nadolig nawr! Penwythnos hyn, fe es i i dŷ un o staff y brifysgol gyda Jeanne fore Sadwrn am fimosas a nibls a chinio. Bu joio yn wir. feri sifilised!! Odd hi wedi bwrw eira tam bach dros nos a odd hi'n dal i fwrw ar y ffordd draw na, ond erbyn dychwelyd odd hi di sdopo bwrw. Wedyn yn y nos ath Jeanne a fi i weld cyngerdd Nadolig Ohio Valley Symphony. Anrheg Nadolig i fi wrthi hi. On nhw'n WYCH! Nes i rili rili joio. On i wedi rhoi lifft i Jeanne, ac fe wnath i ngwahodd i i gal bwyd da hi a Lou ar ôl y cyngerdd, odd yn sypreis bach neis ac annisgwyl!! So dwrnod bach tawel odd dydd Sul yn neud dim lot o ddim byd. Heddi - eira, cyfweliad radio am fynd mas i'r ysgolion, eira, quilt barn project - unveiling quilt barn ddim yn bell o fan hyn, odd yn itha neis. Mynd i weld y goeden nadolig yn cal i goleuo heno ar y campws - wele . So digon mlan da fi heddi!! Hefyd - cewch weld llunie newydd ar Picasa - o'r eira a ty y fenyw on i ynddo fe fore Sadwrn.

Advent Carol Sing

Image
Diddorol yw'r unig air wy'n mynd i ddefnyddio ar y blog ma am y digwyddiad ma. Odd yr amgueddfa'n llawn, ond rhieni'r plant odd lot o'r gynulleidfa, sy'n beth da, ond hefyd sy'n beth gwael gan nad odd lot o bobl odd ddim â chysylltiad uniongyrchol â pherfformiwr wedi dod. Wy wedi rhoi cwpwl o lunie ar Picasa os chi'n moyn i gweld nhw. I'r rhai ohonoch chi sydd ddim yn ffans o Nanci Griffith byddwch chi ddim yn gwerthfawrogi'r llunie ma.... I'r rhai ohonoch chi sydd YN ffans ohoni "Forrrd Econooooliiiiiinneeeeeeeeeeeee!!" Ewch i wrando fan hyn!!! Nes i barco drws nesa iddo fe ddoe wrth siopa am fy anrheg nadolig i (sniff sniff feri sad!!) twdl pip am y tro

Thanksgiving

Fi'n ymddeihurio mod i heb flogio ers sbel, wedi bod yn syndod o fishi!! Fues i yn Columbus dros y penwythnos yn ymweld â Lowri, ac odd Huw na hefyd. Ges i loads o loads o hwyl a ma llunie ar facebook os ych chi'n moyn gweld nhw. Odd e'n brofiad gwahanol, profi bywyd prifysgol yn yr UDA gyda'r rhan fwyaf o fyfyrwyr dan oedran - felly partïon mewn tai odd yr order of the day fel petai. Nes i a Huw hefyd gal cyfle i wylio'r rygbi mewn tafarn yng Ngholumbus, odd yn neis!!! Sooooo ma Thanksgiving fory fi'n mynd lawr i dy merch Evelyn, sydd hanner milltir lawr yr 'ewl. Gobitho byddwn ni'n llu cerdded lawr. Ma'r hen Huwcyn yn dod lawr achos bod angen i fi fynd a fe i'r maes awyr dydd Gwener. Wy'n i bigo fe lan heno o Chillicothe, sydd bwyti awr o fan hyn a wedyn fory ni'n mynd am daith fach ambwyti'r ardal, cyn cal bwyd am 4pm. Bydd hi'n brofiad newydd i'r ddou ohonom ni, so nai adel i chi wybod fel ma hi'n mynd wedyn. Ar ôl myn...

Columbus

I gadw chi'n ypdetid - fues i yng Ngholumbus dros y penwythnos yn ymweld â'r hyfryd Lowri Sion a'i ffrindiau, ac wrth gwrs mr Huwcyn Puwcyn. Wy wedi blino heddi a mond fi sydd yn y swyddfa drw'r dydd, wy ddim yn rhagweld lot o waith cyn cael i neud, os o gwbl!! Ta beth. nai flogio am y profiad wedyn, pan fydd mwy o egni da fi!!!

Homecoming

Wel diwedd wythnos dweithaf odd dathliade Homecoming Rio Grande. Parade yn dechre am 4pm nos Wener a wedyn bwyd ar y diwedd. Gethon ni hwyl, rhaid gweud. Nath Canolfan Madog Gerdded gyda baneri Cymru a phyped enfawr o fam Taliesin (ma hi di bod yn y Ganolfan ers cwpwl o flynydde, gyda arwydd bach yn gweud Taliesin, wy'n gwbo mai nid Taliesin yw hi so cymryd mai i fame yw e falle - unrhyw un sydd a syniad gadewch wbod i fi!!) Ma'r llunie ar Picasa ac ar Facebook i chi gal gweld. Ma'n rhaid i fi weud mod i di joio, a na'r tro cyntaf i fi weld criw o bobl o'r Brifysgol gyda'i gilydd yn joio, odd yn neis, ond trueni bod e ddim yn rhwbeth sy'n digwydd yn aml!! Ma Dr Robert Tyler sy'n Fulbright-Robertson scholar yn dod i roi darlith i ni dydd Iau, ac ma'r wybodaeth am i ddarlith e ar grwp Canolfan madog ar facebook. Na gyd am nawr bois!

post-Rygbi!

Wel nes i fwynhau'r gêm dydd Sadwrn rhaid gweud, er y cnalyniad gwael. Yn y pen draw, ar ôl lot gormod o ffaff ar fy rhan i, lwyddes i wylio'r gêm ar wefan y BBC!! y broblem idd, pan es i na cyn y gêm dodd dim i ddweud y bydden nhw'n dangos y gêm nage just yn neud live text updates. Ta beth weles i ddim o'r côr yn canu, ond glywes i nhw'n amlwg iawn yn canu amthem Seland Newydd o leiaf!! Llunie gwych gan bawb o'r hwyl ar ôl y gêm, a wy'n genfigenus iawn mod heb i weld e - so wy'n gobitho bod y WRU yn darllen y mlog i er mwyn i fi weud 'gwahoddwch Côr Caerdydd nôl i ganu yn y stadiwm!!!' na'i gyd am nawr!!

Rygbi

Wel wy am gal profiad newydd fory - wocho/gwrando ar y rygbi (dibynnu be allai ffindo!!) ar ben yn hunan a heb gwrw i gadw fi'n gall! Wy'n hyderus y byddai'n cal clywed y gêm o leiaf! Pob lwc i Gôr Caerdydd sy'n canu cyn y gêm a wy'n jelys iawn ohonyn nhw. Ma CF1 yn Warsaw fyd, wel ar y ffordd ar hyn vn credu, a gobeithio wnawn nhw fwynhau a gwneud yn dda yn y gystadleuaeth gorawl!!! Hefyd penblwydd hapus Ieu, dydd Sul. Ma fe'n rhannu penblwydd gyda Jamie Roberts. Hyfryd iawn!!

Tywydd ac Amser

Image
Wel wy ffili'n deg a chredu i bod hi'n fis Tachwedd yn barod, ma amser yn HEDFAN y misoedd dwetha ma! Ma'r tywydd yn prysur oeri'n gloi iawn. Boreue yn rhewllyd ond haul yn twynnu sy'n neis iawn, ac yn bert. Ma mwyafrif y coed wedi colli'u dail i gyd erbyn hyn, er bod rhai ond newydd droi'n goch, sy'n od, ond fela na ma rhai coed sbos!! Dynnes i'r llun hyn tu fas i Ganolfan Madog ddydd Sul. On nhw wedi cal gwared ar yr holl ddail dydd gwener, a o'n nhwn garped to erbyn dydd Sul! Pert iawn rhaid gweud, er falle bach o boen!! Ath yn clocs ni nol nos Sadwrn/dydd Sul - wythnos yn hwyrach na phawb gytre ym Mhrydain, so ry'n ni nawr nol i 5 awr o wahanieth. Odd e'n od am gyfnod achos odd yr un gwahanieth amser rhwng Arfordir y Gorllewin a ni fan hyn ag odd rhyngddo ni a Phrydain - sydd ddim rili'n neud sens, ond na ni!! Fel chi'n gwybod o mhostiad blaenorol, odd yr addurniade Calan Gaeaf wedi bod yn mynd ar yn wic i! Wy'n siŵr bydd ...

ypdêt

Helo na! Wy heb flogio ers wythnos bellach sai'n credu - sori am ny! Dyw e ddim achos mod i wedi bod yn hynod fishi yn ddiweddar, mond bod dim byd lot gyda fi i'w ddweud, achos bod dim lot wedi bod yn mynd mlân! Pnawn dydd Sul odd da ni Cemetery Walk yn Vega Church (chi'n ynganu fe veejee). Ath e'n itha da, odd y tywydd yn wych a digon o bobl di troi lan odd yn grêt. Ma llunie ar Picasa (linc ar y chwith) ac ar facebook, ar dudalen facebook newydd Canolfan Madog . Ewch draw i gefnogi os nag ych chi wedi yn barod!! Beth odd e odd pobl yn gwisgo lan mewn dillad cyfnod (os on nhw'n gallu) a darllen bach o hanes rhywun odd wedi'u calddu yn y fynwent, wrth sefyll ar fedd y person na. Braidd yn sbwci i feddwl amdano fe, ond odd e'n neis, ac yn ddwrnod perffeth ari gyfer e. Ar ôl dod nôl goginies myffins blueberry hyfryd (os wy'n gweud yn 'unan!) a phice ar y mân. Ath y pice ar y mân i'r rhewgell fel bod dim RHAID i fi neud rhai tro nesa ma angen nhw -...

Symud Swyddfa part tw

Image
Ni wedi symud mewn i'r Swyddfa newydd nawr - hwre. Gymrodd hi lot o'r dwrnod, ond o leiaf nawr ma swyddfa go iawn da fi, a sdim rhaid mynd lan y stâr hynod anniogel bob bore!!!joio. co ni lun o'r swyddfa newydd

Symud Swyddfa

Image
Ma Canolfan Madog yn Symud i lawr llawr yn adeilad Elizabeth F. Davis. Byddwn ni dal yn meddiannu'r llawr ni arno fe nawr hefyd, ond dim yn ei ddefnyddio ar gyfer swyddfeydd. Ma 'maintenance' ma nawr yn symud y celfi trwm lawr a gobeithio bydd y ffôns wedi cysylltu erbyn diwedd y dydd. Credu'n bod ni'n gobeithio troi un o'r sdafelloedd lan lloft yn ystafell wely er mwyn i bobl sy'n dod i ymweld â'r ganolfna neu'r brifysgol yn gallu aros. M'ar llun yn dangos y before shot yn yn sdafell i ynghanol y mŵf! Ma dwst ymhobman ma bobl a ma'n achosi tishan a pheswch galôr! Hefyd - wele luniau o Cleveland a Cholumbus ar Picasa.

Cleveland a Cholumbus

Wedi bod i Cleveland a Cholumbus penwythnos ma - lot o ddreifo!! Yrres i lan i Cleveland bnawn dydd Gwener - gymrodd hi llai o amser na'r disgwyl, 4 awr a hanner gan gynnwys sdopo am ugen munud i gal bwyd. On i'n mynd i aros gyda Chloë ffrind i Llio o'i chyfnod hi'n Iwerddon, a nes i gwrdda hi pan es i gwrdda Llio yn Columbus mewn priodas mis dwetha. Ma Cleveland yn bert o beth weles i a odd i theulu hi a'i ffrindie'n rili neis fyd. Nos wener ethon ni am gwpwl o ddrincs gyda ffrind i Chloë. Wedyn dydd Sadwrn on ni fod i fynd i weld sights Cleveland ond ethon ni i'r farchnad, cal dishgled o goffi/te a wedyn i weld ffrindie i'r teulu a wedyn dodd dim amser i neud dim arall gan bod ni'n mynd mas am fwyd nos Sadwrn. Ethon ni i'r Great Lakes Brewin Company - cwrw hyfryd ac ymesing. Bwyd neis. Ethon ni am ddrinc ar ol ny wedy gytre. Wedyn lawr a fi i Columbus bore dydd Sul i gasglu Lowri Sion wedyn draw i'r Gymanfa Ganu. nath y ddwy ohono ni rili j...

Penwythnos Hir - Bob Evans Farm Festival

Image
Heb flogio ers bron i wythnos. Hanner y rheswm gan bod dim byd newydd wedi digwydd i fod yn onest! Odd Penwythnos hir gyda ni penwythnos hyn gan bod y bob Evans Farm Festival. A dweud y gwir ma hi'n Columbus Day heddiw, sy'n golygu i lot o sefydliadau bod dwrnod off gyda nhw, a beth ma'r Brifysgol wedi gwneud yw symud y dwrnod off i'r dydd Gwener i gyd-fynd da'r wyl. A ma hi hefyd yn Thanksgiving yng Nghanada heddi fyd. Co collage o lunie yn dangos golygfa o'r ŵyl i chi gael rhyw fath o flas ohono fe. Ma mwy o lunie ar Picasa hefyd. Odd yr ŵyl mlaen o'r nawfed tan yr unfed ar ddeg o Hydref. Nath hi bistilllo'r glaw dydd Gwener, odd hi ddim yn neis iawn dydd Sadwrn a wedyn dydd Sul odd hi'n hyfryd. so es i dydd SUl, a gan mod i wedi mynd ar ôl hanner dydd dodd dim angen talu - bargen!! Beth odd na odd lot o stondine gyda LOT o bethe twee iawn da nhw. Rhai stondine gyda pethe rili neis - ond wrth gwrs on i ffili prynu'r pethe odd yn yn neis chos ...

Welsh Heroes

Heb sôn am hwn, sai'n credu. Ond ma cyn Faculty Fellow canolfan Madog, Benjy Davies yn cal i waith wedi'i arddangos yn y French Art Colony. Y gwaith sy'n cal i arddangos yw'r gwaith wnath e pan odd e'n Faculty Fellow a ma fe'n seiliedig ar y 100 arwr Cymreig yn ôl Culturenet Cymru (ma'u herthygl nhw ar y peth fan hyn - a ma linc o fan na i'r arddangosfa sydd, os nagych chi am ddarllen yr erthygl fan hyn !) Wy'n credu bod y graffigwaith yn rili cŵl a diddorol. Cymrwch bip a phenderfynnwch chi os ych chi'n lico nhw neu bido. Yn hoff rai i yw Grav a Gareth Edwards. Wy newydd fod yn siarad gyda Clay Price - y Cyfarwyddwr Cerdd newydd ma yn Rio Grande. Er fy holl holi o gwmpas, odd neb yn gwybod, neu ddim am weud tho fi - bod côr cymunedol ma yn y brifysgol. Idiots. Ta beth. Nes i ebostio fe yn gweud bo fi ma a licsen i ddechre côr os nagpodd un yn bodoli'n barod a ddath e draw ma i gal chat. Boi hyfryd. Sgwn i fel byddech chi'n disgwyl i r...

Criw y Drindod

Co'r esboniad mewn e-bost ddaeth bnawn dydd mawrth am griw y Drindod yn tynnu mas o ddod draw. Ma'n rhaid i fi fod yn hollol onest fan hyn a gweud bo fi yn wirioneddol hollol gytid a wedi siomi na fydd neb yn dod mas. A wy ddim ishe gwneud i neb deimlo'n wael, ond os oes unrhyw rai o'r criw odd yn mynd i ddod yn darllen hwn wedyn wy ishe iddyn nhw wybod pa mor siomedig odw i na fyddwch chi'n dod mas. On i'n dishgwl mlan yn fawr iawn at gael criw o bobl on i'n gwbod bydde'n siarad Cymraeg am un peth, ond am beth arall fydde'n fywiog ac yn llawn hwyl ac y bydden i'n gallu uniaethu gyda nhw. Ta beth - ma gyfel i fi ffindo projest neu greu project yn hunan yn yr ardal, a nid dim ond helpu mas gyda'r criw ayb. Achos hyn hefyd - dyw'n Nhymor y Gwanwyn i ddim mor strict. So os os unrhywun am ddod mas neu os ych chi'n dod mas o gwbl ma, gadewch i fi wybod a wy'n siŵr allai drefnu i ddod i gwrdda chi! Gadewch i fi wybod! A darllennwch yr e...

Not such a great wythnos

Sori am y bad Welsh yn y teitl, ond wy'n twmlo fel bad Welsh ar y funud. WYthnos itha gwael hyd yn hyn. Nes i ddim sôn yn y postiad dydd Llun bod cwpl o Gymru (y ddau'n wreiddiol o'r gogledd ond yn byw yng Nghaerdydd ers sbel), odd yn digwydd bod yn yr ardal wedi dod i'r Gymanfa bnawn dydd Sul. Wel i dorri'r stori'n fyr, gath y wraig aneurism ar i hymenydd ac aethpwyd a hi mewn hofrennyd i'r ysbyty yn Huntiongton , ar ôl iddi fod yn yr ysbyty lleol fan hyn. So prynhawn Llun ath Jeanne a fi i Huntington i ôl y gwr i ddod a fe nol fan hyn i ôl eu car nhw o'r motel, tra bod hi'n cael llawdriniaeth. Heb glwyed dim ers 'ny, so wy'n gobeithio i bod hi'n oce, a dos dim ffôn symudol gyda fe so allwn ni byth cysylltu gyda fe i weld os yw hi'n oce. So odd dydd Llun yn itha ryff rili. Wedyn ddoe, ar ôl cino, dath e-bost o Goleg y Drindod yn gweud bod dim myfyrwyr yn mynd i ddod draw ym mis Ionawr. Sy'n golygu bydd siŵr o fod r'un faint o...

y Gymanfa

Fel ma rhai ohonoch chi'n gwybod, a rhai ohonoch wrth reswm felly ddim yn gwybod - fues i'n arwain Cymanfa Ganu ddoe yng Nghapel Tyn Rhos, Thurman, Ohio. Randym iawn rhaid gweud. Wy erioed wedi cael cyfle i arwain côr (diolch i anji parcky, neu Angharad Parchus i roi i henw llawn iddi), so odd arwen cymanfa yn od iawn. Odd dwy sesiwn, un am 10.30am, wedyn cinio, a wedyn sesiwn prynhawn am 1pm. Cyn y Gymanfa, bues i yn Gallpolis yn yr Holiday Inn yn cael bwyd gydag amryw bobl odd yn ymwneud â'r Gymanfa; gan gynnwys Evan a Bet Davis a Joan Owen Mandry (syn gefnither i Eirlys sy'n mynd i Gwaelod y Garth gytre. On i'n gwbod bod cefnither gyda Eirlys mas ma, ond ddim yn gwybod pwy odd hi nes i fi siarad gyda Joan nos Sadwrn!). So dydd Sul - es i i'r capel yn gynnar (ma fe jest lan yr hewl - nes i bostio am fynd am wâc lan na a thynnu llunie fan hyn - nôl ym mis Gorffennaf), wedi cael allwedd gan Evelyn y landlord y dwrnod cynt. On i na erbyn 9am, er mwyn cael 'f...

annwyd o hyd

Yn ôl mam odd y postiad dwetha na'n suicidal! Odd e ddim i fod gyment fel ny rili!! Just wedi cal digon ar fod yn y gwaith o 8-5 (ac aros yn hwyrach os wy'n sgeipo), a dim gwaith i'w wneud mewn gwirionedd. On i ddim yn y gwaith ddoe nac echddoe (wel es i gytre am 11am ar ôl gwers fer gyda'r boi dysgu Cymraeg). A dos dim byd da fi i ddala lan da fe - sy'n dangos cynlleied sydd i'w wneud ma. Ma rhaid i fi neud peth ymchwil ar gyfer y Cymanfaoedd dydd Sul (jest bach o hanes ar yr emynwyr/cyfansoddwyr), a wy'm yn gwbod os wy'n hollol dishgwl mlan achos wy eriod wedi gwneud y fath beth o'r blan. Sai hyd yn od wedi arwen côr rili. Ta beth, os os unrhyw tips da unrhywun - gadwch i fi wbod. Wy wedi cal un yn barod 'just esgus mai ti yw Alun Guy' - lle da i ddechre weden i!! Wy hefyd yn canu unwad - but the less said about that the better fi'n credu.... Ar ôl y Gymanfa dydd Sul, ma cyfweliad Radio da fi dydd Mawrth. Wel ma fe'n cal i recordio ...

bw his

sai'n credu bodneb braidd yn darllen hwn, so smoi'n siwr pan wy'n boddran. Sdim lot da fi wedu heddi, fel arfer. Annwyd dal ma ac yn mynd ar yn nerfe i. Ma'n mynd ar yn nerfe i fyw gan mod i'n gwaith yn neud dim gwaith gan bod di rili gwaith da fi i wneud. A bydde man a man bo fi gytre, ond na ni, dim ots. Ma'r tywydd yn ddiflas ma ar hyn o bryd fyd, nage bod ots achos smo i'n cal cyfle lot o fynd mas i'r tywydd, ond wedi gweud ny, allen i sen i rili moyn sbos. ta beth. Wy'm yn lico nofio traq bod annwyd da fi, ddim yn neis iawn, so trial ffindo rhwbeth arall i neud....awgrymiade?

di-bwer

Heb flogio ers y penwythnos. Nes i fennu lan ddim yn mynd mas am ddrinc da Llio nos Sadwrn wedi'r cyfan chos mod i'n idiot, ond llai am ny. Ges i amser hyfryd yng Ngholumbus, a odd e'n gret gweld Llio a chwrdda'i ffrind hi Chloë sydd wedi cynnig i fi fynd i'w gweld hi lan yn Cleveland ddiwedd mis nesa. So ta beth. Gethon ni doriad yn y pŵer heddi. Yn ôl y sôn odd na linell drydan ar dân, a fuodd e bant am bwyti awr a hanner. Wedyn fe ddychwelodd. Gwd ow, ond bach o egseitment ddiwedd haf (hydref rili ond ma hi'n braf ma!!)! Ma'r trydan yn diflannu ma yn itha aml dros y gaeaf yn ôl pob tebyg, a wy ddim yn hollol siŵr be fydd yn digwydd bryd ny, chos trydan sy'n rheoli popeth yn yn fflat fach i, dim ond un heater nwy ben y stâr sy na! hmmmm, so croesi bysedd am i ni beidio â chlli trydan weden i!! Wy bant gytre nawr i gal nof fach. Wy ddim yn neud lot, ond wy'n trial nofio bob nos, gan obitho adeiladu lan faint fi'n neud. Dyw e ddim yn lot, fel fi...

mwy o Columbus

Gwrddes i lan da Llio heddi. Odd e'n rili rili rili neis gweld hi. On i wedi meddwl falle mynd i gwrdda hi a'i ffrindie am ddrinc heno, ond fel nithwr, ar ôl bod yn ishte yn gwely yn wocho tledu am sbel, on i rili ddim yn y mwd i ddod mas o'r gwely yn anffodus. Ac odd hi'n 10.30. Mynd i gwrdda nhw am frecwast bore fory ta beth, cyn heado nol am gytre. Wedi bod yn gwarnado ar, ac yn darllen am Gynhadledd Plaid yn Llandudno hefyd heno. Araith Adam yn rhif 1 o'r top 5 read articles ar y BBC ar un pwynt heno. a ma fe'n araith wyth. So allwch chi wrando arno fe via blog ordovicius . Y gynhadledd yn dishwgl fel llwyddiant ysgubol chware teg. Ewch i plaidbyw.com i gael pip ar lunie, fideos, blogiade a diweddariadau twitter o'r gynhadledd. Co obitho byddai'n llu ffindo'r ffordd gytre fory more dda a ffindes i'r ffordd ma!

Columbus

Wedi cyrraedd Columbus yn saff a heb fynd ar goll unwaith so wy'n hen ddigon hapus!Off mas i gal bwyd nawr, a falle nai gwrdda Llio am ddirinc wedyu nos yw hi'n llu ffindo mas le ma'r bar ma nhw'n mynd iddo ac os odw i'n llu ffindo ffordd na. taxi etc!! Brynes i gps. dodd e ddim yn gwitho. wy'n mynd i ffidlo da fe wedyn mynd a fe nol os nagyw e'n gwitho. hmff. $50 odd e, ond ddyle fe oleia gwitho!!! Ypdêt - Wedi cael bwyd oce mewn restaurant dissapointing. Fast food odd e, a finn'en dishgwl bwyty!! fi'n dwp dife!! Odd Llio wedi trial trefnu i fi fynd i gwrdda nhw y y bar on nhw'n myund i ar ôl y rihyrsal dinyr, ond odd e'n 20 munud o fan hyn, ddim yn practical. Just as well rili chos on i yn y gwely ac yn dechre twmlo'n flinedig! Yr ystafell yn hyfryd ac yn enfawr! Nai dynnu llunie!

Llunie

Wele luniau newydd ar Picasa o'r daith i Pittsburgh (linc ar y chwith uwchben y pysgod!). Ma'r tywydd yn crap ma heddi. Niwl ymhobman ers yn gynnar bore ma, a ma fe dal ma am 11.30! Wy'n clywed eich bod chi i gyd nôl yng Nghymru fach yn cael tywydd hyfryd, haf bach Mihangel (chi deffo'n haeddu fe!). Dim lot mwy i weud am nawr - cewch i weld y llunie!!

wedi Pittsburgh

Wel ges i ddim lot o gyfle i flogio ar ôl pnawn dydd Gwener. Dyma grynodeb byr!! Banquet Nos Wener - Distaster. Dim y bwyd on ni wedi archebu ar ôl i'n bwrdd ni. Gethon ni ddwy botelaid o win yn lle (costio $65 yr un!!!), ond odd e dal yn siambles! Gwyndaf Jones (tenor o Gymru yn byw yn Nhoronto) odd yr enterteinmynt. On i lan nes 3am, a wedyn odd angen codi am 7am i fynd i frecwast Ninnau am 7.30. un gair - strygl! Dydd Sadwrn - i'r Catherdral of Learning ym mhrifysgol Pittsburg - sdafelloedd yn dynodi gwahanol ieithoedd a threftadaethu. Odd yr ysatafell Gymraeg braidd yn ddiflas rhaid dweud, ond odd rhai o'r ystafelloedd eraill yn wych - lluniau ar y ffordd. Ar y ffordd nol odd 'tour guide' yn gweud pethe ridicilys. Odd e'n gweud am ferch 16 briododd ddyn 43, odd rhwbeth i neud da beth odd enw'r ardal on ni'n gyrru drwyddo fe "she had 9 children; 3 boys and 3 girls." A na ni. od iawn! Cyngerdd Côr Cymry Gogledd America yn y nos. Wy'n cre...

Pittsburg part one!

Gymrodd hi bwyti 5 awr i yrru i Pittsburg o Rio Grande ddoe, gan gynnwys sdopo i gael bwyd ayb, a ffindon ni bopth yn hawdd iawn. Checo mewn, gin bach yn y bar wedyn Dafydd Iwan ac Ar Log. Odd y cyngerdd yn rili dda. Blue Rinse Parade central tho, pobl braidd yn ddiflas, on i'n twmlo fel alci gyds Jeanne yn cal cwpwl o gwrws! Gwrddes i da boi odd yn nabod Alun Guy (odd e di bod draw yng Nghymru yn aros da fe Gaeaf dwetha, ac odd e yn y Plymouth Arms ar yr un noson ag odd Côr Caerdyddd na ar ôl canu yn Sain Ffagan!!). Odd e hefyd yn adna bod R. Alun a Rhiannon ac odd e (R. Alun) wedi bod mas yn aros gyda fe, ac am fynd nol i bysgota am Bass!! Radnom ond great! Odd hi'n rili neis gweld cymaint o bobl sydd basically yn Americanwyr, (Americans of Welsh Descent), a ddim yn siarad Cymraeg yn gwrando ac yn mwynhau Dafydd Iwan ac Ar Log. Ac yn canu'r anthem. Odd e'n neud i fi feddwl, pam nad os mwy o bobl yng Nghymru yn gwerthfawrogu'u diwylliant fel hyn, pobl di-Gymraeg hy...

ppp (pre-Pittsburg post!)

Wel er bo fi i fod i of dyn dysgu Cymraeg o ryw fath i un boi yn y Brifysgol, smo fe di troi lan o gwbl to, ar wahan i'r cyfarfod cynta lle on ni'n ffindo mas beth odd e'n wbod. Ddim yn siŵr os yw e'n actialwi'n dost ne bido. Dim ots ta beth, chos on i'n gwbod bod e ddim rili ishe neud hwn, a'i fod e'n neud e er mwyn graddio'n unig, so na ni! Ma gwefan Canolfan Madog nawr yn ddwyieithog, so os y'ch chi ishe mynd draw i weld y gampwaith, ewch i www.madog.rio.edu/cy neu www.rio.edu/madog.cy ! Byddwn ni'n lansio'r wefan ym Mhittsburg yn y Ngŵyl Cymru Gogledd America. Na'i gyd sda fi i'w weud nawr, ar wahân i....ewch fan hyn os y'ch chi'n ffan o'r hen razorblade-gargler, Bonnie Tyler, neu'r bytholwych Only Men Aloud! a'r hyfryd Tim!

Penwythnos

Dim postiad pryfoclyd tro ma. Dim byd lot wedi digwydd dros y penwythnos, ar wahân i bo fi wedi prynnu peiriant coffi - hynod Americanaidd. Ma'n dechre edrych felse fi'n prynu appliance newydd i'r fflat bob penwthnos (wel hŵfyr penwthnos dwetha a hwn penwthnos ma!!) , hah, wel na! On i wedi bod yn dishgwl am beiriant coffi neu gafetiére ers cyrradd, chos sdim byd gwath da fi na choffi instant! Oni bai bo fi'n hollol despryt a bod dim coffi go iawn - ac yn yr achos na - nai jest cal te yn lle! Ta beth $25 odd e. 12 cup! mahoosive, so bargen wy'n credu, a man neud coffi neis, so allai jest troi fe mlan rol dihuno a chal coffi i fynd i'r gwaith da fi (ma fe'n semi-intelligent [ieie fel fi, I know ha.ha.]so wy'n llu llenwi fe da popeth sy ishe a neiff e ddim dechre nes bo fi'n troi'r switsh mlan -cŵl.) So ni off i Pittsburg i'r North American Fesitval of Wales dydd Iau , a ni nol dydd Llun. Ma hi'n Ŵyl y Banc da chi heddi a wy'n gobitho b...

Gwybodaeth Dechnolegol

Ma Jeanne yn dysgu un dosbarth o LA10101-Freshman Success ddwywaith yr wythnos (Ma pob myfyriwr newydd yn gorfod cymryd y dosbarth a ma na sawl dosbarth gwahanol). Dydd Mawrth a dydd Iau am 11.30 ma'r dosbarthiade da hi. Wy wedi bod i'r ddau ddosbarth cynta da hi, ac ar ôl yr un cynta ron i'n meddwl i bod hi'n bod yn itha nawddoglyd, neu bod y cwrs yn un rhwydd ofnadw, un o'r cyrsie na sydd fel sgwennu'ch enw ar bapur arholiad yn golygu bo chi'n cael 2 farc neu rhywbeth. Cwrs allwch chi ddim rili ffaelu oni bai eich bod chi ddim yn i gwpla fe. Y rheswm wy'n gweud hyn yw, er bo da nhw dasg i'w gwneud bob wythnos - beth odd yn cael ei alw'n Journal - y dasg ar gyfer yr wythnos gytaf oedd bywgraffiad, un tudalen (double spacing). Nawr ma cwblhau'r Journals ma yn cyfrannu at y marc ar gyfer y cwrs, a chyn belled a'u bod nhw'n sgwennu rhywbeth, ma nhw'n mynd i basio rili. Dyw tudalen double spacing ddim yn lot, rhyw 500 gair falle? ta ...

dim ffliw moch

Ypdêt bach i chi gyd - sdim ffliw moch arna i, a dim hyd yn oed annwyd sai'n credu - ddim yn dost rhagor. Ma dant doethineb wedi bod yn tyfu bach yn ddiweddar, so ma'n bosib ma hwna odd e (itha tebygol a gweud y gwir), so wy jest yn gobitho nawr na fydd dim yn digwydd iddo fe. Dim pen tost na twmlo'n crap rhagor ta beth so wy'n siŵr byddai'n ffain. Dyw hyn ddim yn brêcing niws, ond ma fe'n bwysig i fi. Tan nawr don i ddim yn gallu rhoi to ar ŵ ac ŷ yn y blog am ryw reswm, dodd y shortcyt ddim yn gweithio fel odd e ar gyfer pob llythyren arall on i ishe. Ond fe ffindes i'r codes html ar gyfer rhoi'r to ar lythrenne, so wy'n llu neud na nawr a ma tŷ yn dishgwl yn gywir a dim fel ty!! Joio bod yn gîc fi! Sdim byd arall wedi digwydd yn fy mywyd bach od i ers i fi flogio ddwetha, ond on i'n ofni peidio blogio rhag ofn bo fi'n cael stŵr to - you know who you are, and I know where you live - grrrr!! So na ni am nawr, a wy'n siŵr bydd mwy da fi w...

idiocracy a pethe ddim mor idiotig!!

Wedi cael cwyn bod fi heb bostio ers sbel, so co ni'n mynd!!! Nes i fwynhau'r erthygl ma ar y BBC ynghylch jôcs gore yn Ngwŷl yr Edinburgh Fringe (anth Dad hala'r rhestr atai wedyn weles i fe ar-lein). Nes i DDIM joio'r erthygl hon , ac yn meddwl fwy nag erioed bod Americanwyr yn gallu bod yn HYNOD o sdiwpid, a nath e nghythruddo fi! (y ddwy erthygl yn ymwneud â'r Alban - diddorol...) Ta beth, nes i ddihuno bore ma gyda llwnc tost a phen tost (wel odd y pen tost da fi ers nos Sadwrn fwy neu lai'n constant), a wy'n credu bod rhyw fath o annwyd ar y ffordd da fi. Un ai na nwu swine ffliw (nes i brynu hŵfyr dydd Sadwrn a odd e'n 'made in Mexico', so falle bod y ffliw wedi dianc wrth i fi agor y box, a la rhyw bennod o'r Simpsons....). Nai gadw llygad ar yn hunan!!! So wy wedi ffindo cwpwl o beiri o sgidie (diflas wy'n gwbod, ond ma rhai o chi am wbod hyn!) a bits a bobs eraill pan on i'n siopa dydd Sadwrn so wy'n hapus. Dodd dim amy...

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

Image
Cyfrannwyd nifer o eitemau gan Dr Robert Burns, Florida i Amgueddfa Treftadaeth Cymry America yn Oak Hill, Ohio. Roedden nhw'n perthyn i'w ddiweddar wraig oedd a'i theulu yn hannu o Gymru (fel ei deulu ef). Byddwn i'n ddiolchgar iawn pe bai gan unrhywun wybodaeth allai fod o help i ni ddarganfod gwerth (er mwyn yswirio, ac er mwyn dibenion treth Dr Burns) neu mwy o wybodaeth ynghylch unrhyw rai o'r darnau. Mae lluniau o bob darn o sawl ongl mewn albwm picasa, ac mae'r albwm i'w gweld fan hyn . Hyd yn oed os nag oes gwybodaeth gyda chi, edrychwch ar y llunie ma nhw'n ddiddorol iawn, a ma'n siwr bod rhywbeth na sy'n debyg i rhywbeth sydd gyda chi yn y teulu, a bydden i'n ddiolchgar iawn o gal gwbod am unrhywbeth fel na! Gadewch neges yn ymateb i'r blog, anfonwch neges twitter neu neges facebook neu anfonwch ebost atai sionedwyn@googlemail.com. Falle bydde diddordeb gyda chi'n gweld y ddwy ddogfen ma fyd. Declaration of Intent Anne gwr...

Newyddion Trist

Trist iawn clywed bore ma (trwy Twitter, cyn i fi weld yr erthygle ar wefan y BBC [ Saesneg , Cymraeg , llunie ]), bod yr hen Dic Yr Hendre wedi marw. Odd hi'n fraint cael bod wedi cael yn urddo ganddo fe yn Eisteddfod Caerdydd a bydd yr Orsedd, yr Eisteddfod a Chymru gyfan yn gweld ei ishe fe'n fawr iawn. Anodd bod mor bell a ffili siarad da neb sydd cweit yn deall pa mor bwysig yw pobl fel Dic i Gymru, er i bod nhw'n gweud eu bod nhw'n Gymry, dy'n nhw ddim yn deall mewn gwirionedd.

Gwasanaethau Iechyd

Rhaid i fi weud bod y busnes slaggo'r GIG off, (sy'n digwydd yn America nawr achos yr Healthcare reform ma sy'n trial cal i basio) yn mynd yn hollo nyts ac yn hollo afresymol. Ma Americanwyr a phobl o'r DU (gan gynnwys gwleidyddion - toris wrth gwrs) wedi bod yn gweud bod y GIG yn gadael i hen bobl farw achos bo nhw ddim gwerth i cadw'n fyw a gweud bod pobl yn gorfod defnyddio sipergliw i ludo dannedd nol achos bod deintyddion yn gwrthod i gweld nhw. Yn amlwg ma hyn i gyd yn gelwydd neu yn achos y siwpergliw yn estyniad enfawr ar y gwir. Wy yn i chanol hi fan hyn, a hyd nes wythnos ma wedi bod y gweud bod dim lot o wahanieth rhwng y ddwy system yn y pen draw - lle bo fi'n cynhyrfu'r dyfroedd. Ond ar ôl i fi ddysgu mwy am y ddwy system a'r gwahaniaethau, does dim dowt da fi y byddai'n sefyll lan dros y GIG nawr. Ges i gomment gan Louis, gwr Jeanne, mai system iechyd America odd y gore yn y byd, a nawr on i'n gwbod bod hwna ddim yn wir, ond on i d...

Stwff wy ddim di gweud!

Oce - so ma na cwpwl o beht wy'n cadw anghofio gweud pan wy'n siarad da pobl a phan wy'n blogio. Ma Evan Davis wedi gofyn i fi arwen y canu yn y gymanfa ganu yn Ty Rhos yn yr hydref achos bod neb arall gyda nhw i neud ar y funud. Sai erioed wedi neud o'r blan - so unrhyw tips PLîS!!! Fi yw llywydd y Cardig Club am eleni a Lauren yw'r is-Lywydd. Dim syniad pam, nes i ddim rhoi'n enw mlan a nath neb rili gofyn i fi nehton nhw jest cyhoeddi fe yn y mhicnic croeso i - od, a wy ddim hyd yn oed yn gwbod beth sydd angen i fi wneud. A i'r rhai o chi sy'n wherthin Cardigan as in Abertwifi nid Cardigan as in beth ti'n wishgo pan ma hi'n ôr wy'n sôn amdano fe!! Ma na sianel ar y teledu a'r subscription sy da fi sy'n dangos lods o raglenni prydeinig, gan gynnwys Dr Who. So ges i Wocho Dr Who yr un gyda New New York a Cassandra - pennod gyflawn gynta Tennant wy'n credu! A dim hysbysebion o gwbl!!! YMESING!!! Oce na'i gyd wy'n credu mo...

Afiach

On i jest am weud pa mor ridicilys o embarrasing yw hwn http://www.sourcewire.com/releases/rel_display.php?relid=LzgTL . Odi hyn yn dangos mai dyma'r math o beth allwn ni disgwyl o'r ffôn Cymraeg newydd ma? sillafiadau anghywir, geiriau wedi'u dyfeisio a sart ar yr iaith? Gobeithio ddim

te

Nes i ffindo mas nithwr bod y soffa yn y fflat yn soffa-wely! Newyddion da sy'n golygu bod lle i fwy nag un person ddod i aros (os ddeiff unrhyw un!!), ma lle i 3 pherson rili, so na ni. Ma hyn felly'n profi mod i ddim yn gwbod popeth am y fflat eto, so wy'n dishgwl mlan at ffindo mwy o bethe newydd! Wy o'r diwedd wedi cofio dod â llath mewn i'r sywddfa sy'n golygu mod i'n gallu neud dishgled (neu 5) i'n hunan yn ystod y dydd yn hytrach na gorfod mynd mas a gwario arian ar de neu goffi. Odd 'creamer' i gal yn y swyddfa, ond sori na, afiachbeth yw e! Dim chans. A nage bod te/coffi yn ddrud iw brynu, rhywbeth fel $2 am un mawr, ond nage na'r pwynt ife?! So wy'n cal gyment o de a wy'n moyn heb orfod poeni bod pobl yn meddwl bo fi'n sgeifo wrth fynd mas i ol un drw'r amser, neu bo fi'n gorfod mynd hebddo! Ma'n od iawn bo fi mewn gwirionedd yn ifed bwyti 4 dishgled o de yn y gwaith bob dydd. Withe mwy hyd yn oed. Ond pan wy...

gwarchod ty

Ma gwaarchod ty (house sitting) yn ridilcilys o americanaidd wy'n gwbod. Wy ffili hyd yn oed credu bod e actiwali'n digwydd tu fas i ffilmie a rhaglenni teledu predictable!! So ar y funud, tra bo lot o chi'n mwynhau oriau ola'r Eisteddfod ym Maes B/C/gigs Cymdeithas neu wedi mwynhau diwedd y sdeddfod a nawr yn cysgu (neu wedi paso mas!!) wy newydd fod am dip ola yn y pwll gan i bod hi'n 6.30pm fan hyn a ma'r haul wedi diflannu dros do'r ty a dyw hi ddim yn ddigon twym i aros mas yn fy nhankini rhagor yn mynd mewn a mas o'r pwll!! So ma'r cwn mewn yn y ty da fi (y rheswm penna odd angen i fi fod ma i warchod y ty oedd fel bod dim angen rhoi'r tri chi yn y cenels) a wy'n ifed glasied arall o win, ac yn sychu bant. Fi am fynd i wylio'r haul yn machlud mewn bwyti awr a hanner ish, achos yn ôl y sôn ma fe'n hyfryd fan hyn! Y ty (a'r cwn) wy'n gwarchod yw ty jeanne fy mos sydd gyda'i gwr mewn rhyw expo/cynhadledd/sioe win (ma...

penwffnos (ac ail bostiad y dydd - dalwch mlan i'ch llygod....)

Image
oce co fi to. Swper dwper ecseeitid am gwpwl o resyme am penwthnos ma. Ma Jeanne wedi rhoi llond bag o fasil i fi so wy'n mynd i neud lot a lot o besto. Troi mas bo chi'n llu rhewi pesto - y ffordd ore yw fel ais ciwbs wedyn , wedyn roi nhw mewn bagie. syniad da sen i'n gweud. Yr ail beth yw bod Jeanne wedi gofyn i fi ddishgwl ar ôl y ty a'r cwn dros y penwythnos tra'i bod hi a'i gwr mewn rhyw gynhadledd/expo o ryw fath (ma'i gwr hi'n gwerthu gwin!!). So wy'n cal bod wrth y pwll drw'r penwthnos os wy'n moyn, so wy'n siwpyr gyffrous i gal neud y gore o'r tywydd!! Y trydydd peth (mw hwn fel pregeth....) yw bo ni nol i oriau arferol dydd Llun. Ond nid yr oriau on i'n meddwl on nhw. 8-5 gyda awr i ginio yw'r oriau, sy'n sili i fi chos wy ddim yn cymryd awr i ginio. Ond odd Jeanne yn gweud bo nhw'n llu bod yn hyblyg os wy'n moyn, cawn weld! Ddim yn gwybod os oes hysbysebion am y ffilm ma di bod da chi gytre ond wy'n...

Mwy o Eisteddfota

Lot o Eisteddfota i fi ddoe - a noson dda o gystadlu odd hi hefyd! Y cystadlu yn wych ar bob cystadleuaeth a nes i wir fwynhau!! O feirniadaeth Alun Guy o'r core ieuenctid, on i'n disgwyl mai'r Waun Ddyfal fase'n mynd â hi, ond Ysagol Gerdd Ceredigion ath a hi gyda'r Waun Ddyfal yn ail a Chôr Iau Glanaethwy yn drydydd. Gan bod Ieu ac eraill wy'n nabod yn y Waun Ddyfal on i'n hapus. On i hyd yn oed yn fwy hapus bod Merched y Ddinas wedi ennill y gystadleuaeth Parti Cerdd Dant yn gynharach yn y diwrnod. Wy wedi cael cyfle i wrando arnyn nhw erbyn hyn a on nhw'n wych whare teg!! Llongyfarchiade hefyd i Meggan Prys ar ennill Medal y Dysgwyr! Ma hi'n dod o Ohio ac odd Jeanne'n i nabod hi'n dda. Ma hi'n briod a boi o'r enw Cynog (fi'n credu, neu falle Cynan) a fe odd un o'r ddau olaf i ddod mas i Rio Grande ar Ysgoloriaeth Evan Davis - sydd nawr wedi'i droi'n Internship, sef beth wy'n neud! Byd bach hyd yn oed tu fas i G...

Eisteddfota

Wedi bod yn gwylio'r Eistedfod drwy'r bore ac yn trydar! Heddi yw'r diwrnod llawna o bethe wy am u gwylio heddi. Ma Gwenllïan a Ieu yn Cystadlu mewn bobo gystdaleuaeth, y Fedal ryddiaith a thlws y cerddor. Dishgwl mlan yn wir! Wedi clwyed stori am daith dad gytre o'r Bala i Gaerdydd nos Lun - bwrw mochyn daear enfawr lawr. Cyn mynd i'r gwaith fore Llun mynd i'r garej i checo rhag ofn bod niwed i'r car - ffili cyrradd y garej achos odd y rheiddiadur yn cwmpo off!!! miloedd o bunne o niwed i'r car yn ôl y sôn! awch. a do, bu farw'r momchyn daear - Dad yn amlwg yn trial dynwared y roadkill sda fi fan hyn!!! Ma'r gwahanol Band Camps dal wrthi'n drymio tu fas i'r ffenestr! Ddim yn swir os wy wedi sôn am hyn o gwbwl a gweud y gwir. Bob wthnos ma na wahanol fandie o wahanol ysgolion ac ardaloedd yr ardal yn dod i aros ar y campws ac i ymarfer. Ma nhw'n aml yn ymarfer tu fas gan i bod hi'n braf - ac ma paw yn gwbod bod ymarfer tu fas yn d...

storm a hanner

Wel ma hi jest abowt yn dechre goleuo ma nawr (hanner dydd!!) ni wedi cal storm mellt a tharane enfawr a odd hi'n dywyll iawn, ond sai'n credu bo ni wedi gweld y gwaetha ohono fe eto rywsut. Ma mwy i ddod erbyn diwedd y prynhawn! Wy wrthi'n wocho sdeddfod yn barod i weld gwobr goffa Daniel Owen, a ma Cerian newydd ennill y ddawns stepio. Gethon ni lythyr ddoe gan foi sydd yn y carchar yn California ac yn dysgu Cymraeg i'w hunan!! Dim syniad pam, ond na ni, so wy wedi gorfod ffindo lot o wahanol wefanne ayb sy'n helpu chi i ddysgu Cymraeg i'ch hunan! Na gyda sda fi weud am nawr - nol at y sdeddfod!

Coroneiddio

Wel wy wedi llwyddo gwylio'n seremoni gynta i o ben draw'r byd!! Yr unig broblem yw i bod hi'n twmlo fel diwedd y dydd nawr er bod hi ddim yn 1pm to - gytid! Odd e'n neis gallu adnabod Ceri Wyn Jones pan safodd e lan (wy ddim yn aml yn nabod y bobl ma o'u gweld nhw!). Fues i'n tweeto yn ystod y seremoni fyd a odd rheini yn ymddangos ar wefan y BBC wrth i'r seremoni fynd yn i blan, cyn belled â bo fi'n rhoi #eisteddfod yn y tweetiad! Fel wedes i gyne fach fyd, treni nad odd Dic o'r Hendre yn ddigon iach i fod na. O beth wy'n cofio llynnedd dodd e ddim n holliach pryd ny chwaith. Cwestiwn - Odd Ieu yn yr osgordd ar y llwyfan? Dodd Merch y fro ddim mor dda a Gwenllïan llynedd, a odd mam y from yn dishwgl braidd yn ddiflas! Ond joies i rhaid gweud y gwir, er bo fi'n genfigenus IAWN ac yn gwel ishe pawb mwy nag eriod nawr! Cerith wedi cal syniad da, bo fi'n seto pabell fach lan yn y swyddfa ag esgus bo fi yn y sdeddfod! gwych. Nai fynd a'r...

postiad interim!

Image
Wy'n sylweddoli mod i heb flogio o gwbl ers dydd mercher diwethaf, ond na ni, sdim byd lot wedi digwydd!! Wy wrthi'n gwylio seremoni'r coroni ar hyn o byrd a gweud y gwir. Sylweddoli bod Dic o'r Hendre ddim na, treni mowr, goitho fydd e'n well. A gobeitho bydd teilyngdod. Odd y picnic croeso i fi dydd Sul yn hyfryd. Odd bwyti 20 o bobl na a lot gormod o fwyd! Nath y tywydd bara yn braf trw'r pnawn yn lwcus! Nes i neud pice ar y man (diolch i'r awgrym gwreiddiol gan Delyth, a'r rysait gan Mam!), a ethon nhw lawr yn wych! Wy'n mynd i fynd nawr a trial cadw llygad mas i weld os yw Ieu wedi penderfynnu bod yn orseddogyn ar y llwyfan heddi!! A wrth gwrs gweld pwy sy'n cael ei g/choroni!!! hwyl am y tro

roadkill!

Un peth arall wy ddim yn credu mod i wedi gweud amdano fe yw'r roadkill a'r anifeilied gwyllt sydd ambwyti'r lle! Hyfryd wy'n gwbod. I ddechre ma na Groundhog yn byw tu fas i'r swyddfa - ni'n gweld e'n bolaheulo pan ma hi'n braf a wedyn rhededg bant os os unrhyw un yn dod yn agos! Ma'n itha ffyni a gweud y gwir. Ma na hefyd wiwerod ac adar diddorol yn byw ambwyti'r campws. Ma na arwyddio ym mhobman yn rhybuddio am geirw, a dy'n nhw ddim yn gweud celwydd. Chi'n gweld nhw wrth ochr yr hewl (rhei ifanc gan amla) ac yn y nos ma nhw'n rhedeg o gwmpas ac yn fwy tebygol o gal eu bwrw. Wrth ddreifo i unrhywle wy'n gweld rhwbeth wedi'i ladd arochr yr hewl, twrch daear, drewgi, carw, cath, wiwer, racoon, cadno - ma'r rhestr yn itha hir! Ma'r cwn sydd ambwyti'r lle braidd yn annoying fyd - newn nhw redeg mas i'r hewl atb y car, ac yn aml ma rhaid brêco er mwyn pido bwrw nhw, sy braidd yn sceri, withe newn nhw jest rhedeg ...

diwrnod diflas arall!

Image
Diwrnod diflas arall yn y gwaith, a wy'n siwr bo chi ddim rili ishe clywed amdano fe, ond ma sgwennu'r postiad ma o leia'n gwastraffu bach o'n amser i! Nes i ddarllen ar y BBC ddoe bod awyren Flybe odd yn hedfan o Charles de Gaulles i Gaerdydd wedi cael i divertio i Exeter achos i bod hi wedi'i bwrw gan fellten! Dodd dim problem yn ôl y sôn, ond odd rhaid glanio cyn gynted â phosibl rhag ofn! Itha diddorol on i'n medwl! Neis clywed hefyd fod y côr wedi mwynhau yn Sbaen ac wedi gwneud tair cyngerdd yn y pen draw - ma'r llunie wy wedi gweld hyd yn hyn ar facebook yn edrych yn grêt! Rhaid gweud mod i'n dishwgl mlan at gael cyfle i ganu ym mis Medi (gobeithio!!). Wy wedi gallu rhoi lot fowr o lunie lan ar picasa. Ma na ddolen ar ochr chwith y dudalen, a allwch chi hefyd ddilyn y ddolen ma at y llunie..... Ma mhicnic croeso i dydd Sul yn yr Amgueddfa Treftadaeth yn Oak Hill, jest gobeithoi gewn ni dywydd gwell penwythnos ma na gethon ni penwythnos dwetha. C...

amish, tywydd, stwff

Sai'n credu bo fi wedi gweud unrhyw beth am yr Amish yn yr ardal, nage bod lot fowr i weud, ond wy ddim yn credu bo fi wedi gweud dim! Wel ma na boblogaeth itha mowr ohonyn nhw yn yr ardal (dim cyment â ny reit o nghwmpas i, ond ma nhw ambwyti). Wy ddim yn gwbod lot amdanyn nhw, ond wy'n gwbod bo nhw ddim yn defnyddio unrhyw dechnoleg modern, ma nhw'n gwsigo'n syml iawn, a ma nhw'n teithio ambwyti mewn ceffyle a thrapie. Dy'n nhw ddim yn mynd yn gloi iawn, ac yn aml dyw'r trap neu'r 'buggy' efl ma nhw'n galw nhw mas fan hyn, ddim yn edrych yn saff iawn i fi!! Wel fi'n siwr allech chi neud ych ymchwil ych hunan i'w credoau nhw ayb os ych chi'n moyn, on i jest moyn gweud i bod nhw ambwyti'r lle ma! Odd y tywydd penwthnos ma yn ofnadw! On i wedi bwriadu treulio lot o amser mas tu fas yn bolaheulo yn y man bach tu fas i'r fflat ffindes i penwthnos dwetha, ond ar ôl bod i siopa yn Kroger yn Jacskon dydd Gwener (LOT LOT gwell na...

HP6+1

Es i i'r cinema TO nithwr. On i wedi bwriadu mynd i weld The Hangover odd mlan am 7:30. Ond NA. Odd y we wedi gweud celwydd, odd e mlan am 6 a 9.40 - bw!!! Wel on i wedi mynd yr holl ffordd lawr yn y glaw (ma'n cymryd bron i hanner awr fel arfer), so on i ddim yn mynd i neud round trip am ddim rheswm. Am 7.30 odd Ice Age 3 (wy heb weld 1 na 2 to!!), a The proposal (on i ddim yn mynd i weld e 2 noson in a rown, odd e ddim mor dda a na!!), so es i weld HP6 odd yn dechre am 7.15, odd hwna werth mynd i weld to! Nes i sylwi mwy ar y pethe odd ar goll o'r stori, pethe on i'n meddwl odd itha pwysig, ond na ni, sdim ots. Dishgwl mlan nawr at wocho'r Seithfed un (mewn dau ran), ac adnabod Freshwater fel lleoliad shell cottage - hwre! Ma hi fel dwrnod o haf yng Nghymru ma heddi!! Bwrw glaw, tywyll a bwyti 17 gradd ar y mwyaf, ond mond 8.30am yw hi, so cawn weld. Ma hi'n bewthnos arnai nawr so fory byddai off i Jackson i ymchwilio'r lle a phryn rhyw bits a bobs gan ...

ffilms ayb

Sdim byd lot gyda fi weud, ond wy'n moyn neud yn siwr bo fi'n cadw blogio'n weddol rheolaidd, neu fyddwch chi'n anghofio mod i yn gwneud. A wy'n gwbod bo chi'n aros yn eiddgar am bob postiad i gal gwbod be sy'n mynd mlan yn y mywyd bach i ar hyn o bryd! Es i i weld The Proposal nithwr, gyda Sandra Bullock a Ryan Reynolds. Odd e'n rili dda, llai chick flick nag on i'n disgwl, bits bach itha cringey och chi'n llu gweld yn dod, ond nes i rili mwynhau! Wy wedi cal ordors i fynd i weld The Hangover , a wy rili ishe mynd i weld My Sister's Keeper , ond wy ddim yn credu i fod e'n ffilm i fynd i weld ar ben yn hunan, so falle nai aros nes i fod e'n dod mas ar DVD!! Wy'n dal i aros am yr instalment nesaf o Brothers & Sisters (ond o leiaf nawr ma'r disgs wy wedi wocho wedi cyrradd nol at netflix yn Columbus yn saff!!) Fi'n hynod hollol jelys o aelode o Gôr Caerdydd (ac eraill o ar draws Cymru a'r gwledydd celtaidd) sydd ...

Penwythnos a thâl!

Fe ges i bewythnos bach weddol dawel wthnos hyn. Mynd i weld Harry Potter, bach o goginio ac eistedd tu fas a mynd am wac. Dim nofio, odd Jeanne ddim yn twmlo'n hwylus dydd Gwenre, so on i'n meddwl bydden i ddim yn boddran nhw penwthnos ma! Wedi bod yn wocho Borthers and Sisters dros y penwythnos fyd - ma fe mor dda!! On i wedi gweld rhan fywaf o'r pennode o'r blan ond odd e'n gwd wocho nhw to gan mod i moyn gwylio'r gyfres i gyd - dishwgl mlan at yr instalments nesa nawr! Wy wedi ymuno â netflix (fel LOVEFiLM gytre), so wy'n llu wocho lot o beth am ddim lot o arian! Weeeeel, y newyddion gwych heddi yw mod i newydd gasglu siec ar gyfer y bythefnos gynta ma (h.y. tâl 22-30 Mehefin) - so wy ddim yn hollol dlawd rhagor, hwre! Bydda i'n talu hwna mewn i nghyfrif cyn gynted â phosibl! Byddai hefyd yn cael yn nhalu ddiwedd y mis fel yr arfer, so alla i ddechre talu nghyfrif NatWest gytre nol! Credu bo ni'n neud rhywbeth yn yr amgueddfa fory, ond ddim yn ho...

Amryw bethe!

Image
Es i weld Harry Potter nithwr - odd e'n wych!! Definately werth mynd i'w weld e, a falle elen i 'to hyd yn od! Fues i hefyd lan yn Tyn Rhos (5 munud o wâc lan) a thynnu llunie o'r fynwent ac o'r capel ac o'r bywyd gwyllt ar y ffordd lawr ( http://www.facebook.com/album.php?aid=49130&id=309601010&ref=mf ). Wrthi'n siarad da Gwenllïan a Ieu ar Skype ar hyn o bryd tra bod Mam a Dad mas yn galifanto!! Ma mwy na dim ond y llunie na wedi mynd lan so ewch i gal pip os chin gallu!! (Y llun yw'r machlud ar y ffordd nol o weld HP nithwr). Gadewch i fi wybod os bydd well da chi weld y llunie ar flickr neu ar y blog yn hytrach na facebook!! Went to see HP6 last night - it was amazing!! Definatley worht seeing, and might even be worth seeing again!! Also walked up to Tyn Rhos church this morning and took some pictures of the cemetary and the wildlife on the way back down ( http://www.facebook.com/album.php?aid=49130&id=309601010&ref=mf ). Skyping wit...

Myfi!

Wele erthygl amdana i ar wefan y Brifysgol! Itha cyffrous rhaid gweud!! Wy'n gobitho mynd i weld Harry Potter fory a wy'n RILI egseited achos wy'n gwbod bydd e'n dda!! Dim niws arall ar hyn o bryd.... --------------- here's the article about me on the University's Website, quite exciting! Hoping to go see Harry Potter tomorrow and I'm really excited! I know it's going to be amazing!! Nothing else to report for now....

prawf gyrru

Image
Jest postiad bach cloi i weud bo fi wedi paso'r prawfd gyrru!! hwre hwre!! Nath e bara grand total o 6 munud!!! ridiculous!!! Ond nawr wy'n hollol gyfrithlon sy'n grêt! ond ma'r llun yn AFIACH!!! Nai flogio to pan ma mwy o bethe diddorol da fi weud!! Quick post to say that I've passed my driving test hurrah hurrah!! Lasted all of 6 minutes!! totally ridiculous, don't know what I was worrying about! But now I'm legal all is good. But the pictre of me on it is awfull!! I'll blog again when I have something more interesting to say (The previosu post was a few happy birthday shout outs by the way!!)

Penblwyddi!

Jest postiad bach cloi i weud Penblwydd Hapus hwyr i Gwenj, a Phenblwydd Hapus i Gwenllïan a Cnob heddi!!! joiwch y dathlu! Ma prawf gyrru da fi am 1pm a wy ddim yn dishgwl mlan - waaaa!!

dydd Sul

Wel ath y darllen yn dda ag ystyried bo fi ddim wedi cael LOT po amser i ddysgu dim byd! Fues i yn yr amgueddfa yn gwitho am bach ar ol ny. Ma na biano na (sydd mwy neu lai mewn tiwn nath yn synnu i!), so fues i'n ploncan ar hwna am sbelen - odd na lyfr cymanfa ganu so na le on i'n trial whare'r emyne ma i gyd, odd e'n itha doniol actiwali chos o fi ddim yn gallu whare'n dda iawn rhagor, ond wy'n mynd i drial ymarfer o nawr mlan! Bopes i mewn i'r swyddfa ar y ffordd nol, ac on i'n gadel y swydfa bwyti 4, ac odd hi'n dywyll tu fas!! Odd storm ar y ffordd yn sicr! dechreuodd hi big bwrw ar y ffordd gytre, ac erbyn i fi gyrradd nol i'r fflat dechreuodd y mellt a'r tarane, on nhw mor agos odd y llawr yn y fflat yn shiglo! Ond sdopodd hi ar ôl bwyti awr ac odd hi'n lot llai clos wedyn. Es i am fywd gyda Lauren i Toro Loco yn Jackson neithiwr. Odd e'n hyfryd, bwyd Mecsicanaidd ffresh hyfryd! Wy off draw i dy Jeanne nawr i nofio gan bod y t...

dim mwy problem - muchos gracias!

Crisis averted diolch i Brigyn!!! Wrth bo fi'n whilo am recordiad o 'Do not go gentle into that good night' (on i wedi rhoi lan meddwl basen i'n ffindo cyfieithiad mewn digon o amser) a beth bopodd lan ond Brigyn yn canu cyfieithiad ohono fe! So wy'n mynd i ddefnyddio cwpwl o benillion Saesneg a chwpwl Cymraeg ar gyfer yr angladd, wy'n credu bydd e'n lyfli. Dim lot arall da fi i weud, wedi bod yn y diwnrod agored bore ma, odd stondin da ni tu fas am ddwyawr ac odd hi'n dwym ofnadw, ond neis bod mas yn yr haul. Odd e'n lyfli siarad da aelode o Gôr Caerdydd pnawn ma yn y parti yn 6 Alfreda Road!!!Off a fi nawr i ymarfer y gerdd ma te wy'n meddwl!! --------- Crisis averted thanks to Brigyn (a Welsh band). whilst looking for a recording of 'Do not go gentle into that good night' (I had all but given up all hope that I'd find it in Welsh in time), but what appeared in the seach but Brigyn singing a translation!! So I'm going to use a f...

y penwythnos sydd i ddod

Wel am unwaith ma penwythnos itha bishi o mlaen i!! Fory wy ma yn y brifysgol o 11 nes 1 yn helpu mewn diwrnod agored, wedyn yn y nos ma Agnes, ysgrifennyddes Canolfan Madog (Saesnes sydd wedi byw ma am sbel a sydd a thair o ferched a ma hi bwyti 30 yn ôl Jeanne ond ma hi'n dishgwl ru'n oedran a fi), wedi ngwahodd i draw i'w thy am fywd a wedyn mynd i weld band sy'n chwarae yn 'the courthouse' sydd yn Gallipolis (ma hi'n byw yn Gallpolis fyd), sef y dref fawr-ish agosaf, ddylse fod yn hwyl! Wedyn ma dydd Sadwrn yn ddwrnod bach od. Ma da ddyn o'r enw Roy Moses odd yn gwneud lot da'r coleg, odd yn dod o Loegr yn wreiddiol, a'i wraig a gwreiddie Cymraeg, wedi marw. Ma'i angladd e dydd Sadwrn ac odd i wraig am i fi ddarllen rhywbeth, gan bo fi'n dod o Gymru. Beth odd hi wedi meddwl amdano fe odd 'Do not go gentle into that good night', ond wy ddim yn gwbod os yw hwna erioed wedi cael i gyfieithu?? Os os UNRHYW UN yn gwbod am gyfieithi...

wythnos tri diwrnod!

Wythnos fer, ond ma felse lot o bethe'n digwydd yn barod. Wy wedi bod lawr i'r swyddfa Social Security a os af i nol fory fe gaf i rif SS er mwyn cael yn nhalu ddiwedd y mis - hwre!! Wy wedi bwcio'r prawf gyrru - wythnos i heddi (14 Gorffennaf - dyddiad pwysig i unrhywun.....??) am 1pm. Wedi cwblhau lot o bethe heddi - ond dal ddim yn neud lot o waith achos bod dim lot i fi neud! Am drial dreifo ambwyti penwthnos ma falle - ffindo mas beth sydd ambwyti'r ardal leol, ac ymarfer dreifo ar gyfer y prawf.....digon o amser cyn ny tho!! ------------------ Although it's a short week this week, a lot seems to be happening! I've been to the social security office and I['ll be issued a number at midnight tonight, and I can get my number if I go down tomorrow. Which means I'll be paid at the end of this month definately, though my card may take a while longer to get to me. I've booked the driving test - 14 July 1pm - a week today. Done and comleted a lot of th...

Martha

Wel wy wedi rhoi enw i'm annwyl car - Martha!! hihi. Ethon ni'r holl ffordd i Washington a nol ynddi hi heb ddim trwbwl (car 11 mlwydd oed gyda 119,000 ar y cloc yn barod, a ma Washington yn 850milltir round trip). Wy wedi ychwanegu llunie Washington i facebook a rhai ar flickr erbyn hyn, a ma na fideos fyd!! Os y'ch chi heb neud, ma na thing i danysgrifio i'r blog ar y dde, a byddwch chi'n cael gwybod bob tro wy'n blogio - siwr ei fod e'n haws na trial cofio checo!!! Hwyl am y tro!! ---------- I've named my car - we decided on Martha, an oldish name for my oldish car (who made the 850 mile round trip to Washington without hiccups). I've put the pictures on facebook and some on flickr, and there will be some videos too. If you haven't done so yet you can subscribe to the blog on the right hand bar on this page, and hopefully that lets you know when I've blogged so you don't have to check all the time!! Bye for now!

O gwmpas DC ar fws

Dihunes i'n itha cynnar heddi bwyti 8am, cyn pawb arall, so odd da fi amser i ymlacio a darllen tamed bach cyn bo ni'n dechre ar ein hantur heddi!! Nethon ni benderfynnu pido mynd i'r wyl a mynd ar open top bus yn lle i weld y ddinas ar i gore. So co ni grynodeb bach o bopeth ethon ni off y bys i'w gweld a rhai pehte nopdweddiadol erill, sdim i'w weud am rhai pethe ond ma na am erill.... Jefferson Memorial Lincoln Memorial - Wedi bod o'r blan ond ru'n mor ymêsing, golygfa wych dros y mall National Portrait Gallery (on i ishe mynd i'r Spy Museum, ond ches i ddim chos odd neb rili moyn dod da fi a odd e'n mynd i fod yn awr o giwio cyn mynd mewn). Odd y llunie i gyd yn wych, llunie o Barack Obama a John McCain (ar wahan ar gyfer gwahanol photoshoots) yn 2004, odd yn rili ddiddorol. Portreadau swyddogol o'r holl arlywyddion odd yn cwl fyd. Welon ni lot fowr o bethe erill o'r bys, a thynnu llunie hyfryd. Gethon ni fwyd mewn bwyty pysgod hyfryd o...